Maes awyr Caerdydd i groesawu 24,000 o gefnogwyr

  • Cyhoeddwyd
Cynghrair y PencampwyrFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd/BBC

Mae rheolwyr Maes Awyr Caerdydd yn dweud eu bod yn barod i ddelio â'r môr o gefnogwyr fydd yn teithio drwy eu gatiau ar 3 a 4 Mehefin, wrth i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gael ei chynnal yn y brifddinas.

Mae disgwyl i dros 24,000 o gefnogwyr ychwanegol deithio yno dros y penwythnos, sy'n golygu y bydd tua 400 o awyrennau preifat a siarter ychwanegol yn teithio drwy'r maes awyr.

Yn ogystal â hynny, mae cwmnïau fel Ryanair a Vueling wedi cynyddu eu teithiau, tra bydd KLM yn darparu awyrennau mwy er mwyn cwrdd â'r galw.

Bydd cefnogwyr Juventus yn cyrraedd Caerdydd drwy ail derfynfa, sydd wedi ei hadeiladu'n arbennig er mwyn rheoli'r teithwyr ychwanegol yn ddiogel.

Bydd timau Juventus a Real Madrid a'u timau rheoli yn cyrraedd ar 2 Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Maes awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 24,000 o ymwelwyr ychwanegol deithio drwy ddrysau'r maes awyr

Mae rheolwyr y maes awyr yn pwysleisio serch hynny - er y bydd yn benwythnos llawer prysurach na'r arfer - y byddan nhw'n gwneud pob ymdrech i sicrhau cyn lleied â phosib o effaith ar deithwyr fydd yn teithio ar eu gwyliau neu gyda'u gwaith.

Mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i ganiatáu amser ychwanegol i ac o'r maes awyr, ac i gofio y bydd rhai ffyrdd yn yr ardal ynghau dros y cyfnod.

Dywedodd Deb Barber, Prif weithredwr Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o'n rhan ni yn 'Nhîm Cymru' ar gyfer y digwyddiad mawr hwn.

"Mae Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn cynllunio tuag ar rownd derfynol Cwpan y Pencampwyr ers 12 mis, er mwyn sicrhau bod y cynllun trafnidiaeth awyr yn un cadarn, effeithiol ac wrth gwrs yn ddiogel.

"Fel tîm, byddwn yn mynd y filltir ychwanegol er mwyn sicrhau bod pethau'n gweithio fel arfer i'n cwsmeriaid, tra'n sicrhau digwyddiad llwyddiannus gyda chroeso cynnes Cymreig i fôr o gefnogwyr!"