Williams yn gollwng targed addysg rhyngwladol PISA

  • Cyhoeddwyd
PISA

Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi datgelu na fydd ysgolion Cymru yn anelu at gyrraedd un o'u targedau blaenorol ym mhrofion addysg rhyngwladol PISA.

Fe gyflwynwyd y nod o gyrraedd sgôr o 500 ym mhob pwnc ym mhrofion PISA gan y llywodraeth yn 2014.

Yn 2016 fe sgoriodd Cymru 478 mewn mathemateg, 477 mewn darllen, a 485 mewn gwyddoniaeth.

Mae profion PISA yn cael eu cymryd gan ddisgyblion 15 oed mewn 72 o wledydd unwaith pob tair blynedd.

Dywedodd Kirsty Williams wrth bwyllgor addysg y Cynulliad nad ei tharged hi yw hyn, gan wadu ei bod yn gostwng disgwyliadau.

'Cymhleth'

"Rydw i wedi bod yn glir fy mod yn disgwyl i'r system addysg yng Nghymru wneud cynnydd yn sgorau PISA, ond mae'n fwy cymhleth na hynny," meddai Ms Williams.

"Mae angen i ni wneud cynnydd mewn ardaloedd penodol.

"Rydym wedi gwneud cynnydd gyda'r plant sydd â pherfformiad isel, rydym wedi eu codi maen nhw'n gwneud yn well na'r cyfartaledd OECD."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kirsty Williams ei phenodi i'r cabinet y llynedd

Gofynnodd Llŷr Gruffydd AC iddi mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Mercher: "Felly nid 500 yw'r targed nawr, ond symud i'r cyfeiriad cywir?"

Mewn ymateb dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg: "Nid dyma fy nharged i."

Cafodd Ms Williams - unig AC y Democratiaid Rhyddfrydol - ei phenodi i'r cabinet Llafur yn 2016.

Yn ôl Llŷr Gruffydd, AC Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru: "Yn lle wynebu'r her mae'r ysgrifennydd cabinet yn gostwng disgwyliadau.

"Does dim rheswm pam na all plant yng Nghymru wneud cystal â phlant gwledydd eraill y DU."