Gwerthu'r Gymraeg i'r byd
- Cyhoeddwyd
Cymru 3 Rwsia 0. Doedd hi'n noson anhygoel yn Toulouse y llynedd? Tra roedd miloedd o Gymru yn dawnsio mewn gorfoledd yn y stadiwm ac o flaen sgriniau teledu roedd cwmni o Gaerdydd yn paratoi un o'r ymgyrchoedd marchnata mwyaf llwyddiannus erioed yn y Gymraeg.
Yn ystod Pencampwriaeth Euro 2016 roedd cwmni Mela yn un o bartneriaid Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac yn cydlynu rhan o'u gwaith cyfathrebu.
Gyda Chymru yn feistri corn ar Rwsia, ac yn edrych fel eu bod am ennill y grŵp, cysylltodd tîm marchnata cwmni chwaraeon Adidas gydag Ashok Ahir, cyfarwyddwr Mela.
"Adidas oedd un o brif noddwyr y gystadleuaeth ac fel ro'dd hi'n digwydd y nhw hefyd oedd yn cynhyrchu gwisgoedd tîm Cymru ac ro'dd Gareth Bale yn lysgennad iddyn nhw," meddai Ashok Ahir.
"Gan bod Lloegr yn cael gêm gyfartal yn erbyn Slofacia ac yn edrych bod Cymru am ennill y grŵp ro'dd y cwmni am adlewyrchu llwyddiant tîm Chris Coleman ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Fe ofynnon nhw i ni gyfieithu y slogan hysbysebu roedden nhw wedi bod yn ddefnyddio i hyrwyddo ymgyrch Cymru yn ystod y gystadleuaeth i'r Gymraeg."
Roedd beth ddigwyddodd wedyn yn rhyfeddol yn ôl Ashok.
"Wedi i'r neges Gymraeg gael ei hanfon o gyfrif Twitter Adidas, yn fuan ar ôl y chwiban olaf, fe gafodd hi ei rhannu yn gyflym ac fe gyrhaeddodd yr iaith Gymraeg i bob cwr o'r byd mewn byr amser," meddai.
"Effaith hynny oedd bod cwmnïau eraill wedi dilyn trywydd tebyg ac roedd y cyfryngau cymdeithasol, papurau newydd a rhaglenni teledu yn drwch o negeseuon Cymraeg yn llongyfarch Cymru.
"Erbyn hyn mae dros 350,000 o bobl wedi gweld y neges a dros 20,000 o ddefnyddwyr wedi gwylio'r 'gif' o Gareth Bale sydd ynghlwm â hi. Ry'n ni'n credu mai hon yw'r neges farchnata ddigidol Gymraeg sydd wedi creu'r argraff fwyaf hyd yma."
Ers ymgyrch Euro 2016 mae Mela wedi cydweithio gyda nifer o gwmnïau eraill i ddatblygu cynlluniau marchnata dwyieithog:
"Beth sy'n bwysig yw bod cwmnïau yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol wrth rannu eu negesuon. Dyw e ddim o angenrhaid yn golygu gwneud popeth yn ddwyieithog, ond eu bod yn ymwybodol o'r cyfloedd sydd yna i greu argraff trwy anfon negeseuon digidol yn y Gymraeg."