Llywodraeth yn gwrthod sefydlu ysgol feddygol yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Vaughan Gething nad oedd wedi ei berswadio bod angen ysgol feddygol i'r gogledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, daw'r penderfyniad wedi misoedd o drafod gydag arbenigwyr, y Gwasanaeth Iechyd a'r ddwy ysgol feddygol sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru.
Dywedodd Mr Gething ei fod yn awyddus i weld cydweithio agosach rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor yn y maes, er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr dreulio mwy o amser yn y gogledd yn rhan o'u hastudiaethau.
Mae AC Plaid Cymru dros Arfon wedi galw'r penderfyniad yn "frad ar bobl Bangor, Arfon a'r gogledd i gyd".
'Brad' ar y gogledd
Ym mis Mai dywedodd yr Athro Dean Williams bod Prifysgol Bangor yn barod i sefydlu ysgol feddygaeth newydd i'r gogledd.
Dywedodd bod angen gwneud hynny er mwyn delio gyda diffyg meddygon yn y dyfodol.
Cafodd ei adroddiad ei gomisiynu gan AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian, oedd wedi dweud bod Cymru'n wynebu "argyfwng" meddygol.
Dywedodd Mr Gething ei fod wedi trafod y mater dros gyfnod o fisoedd: "Er nad ydw i wedi fy mherswadio bod angen ysgol feddygol newydd, dwi yn credu bod achos am gynnal mwy o addysg feddygol yng ngogledd Cymru.
"Gall cynllun o addysg ac hyfforddi yng ngogledd Cymru drwy gydweithio agosach rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor sicrhau'r cynnydd mewn cyfleoedd am addysg feddygol yng ngogledd Cymru."

Mae Sian Gwenllian wedi galw'r penderfyniad yn "frad" ar bobl yr ardal
Wrth ymateb, dywedodd Sian Gwenllian: "Mae'r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn glir, ac y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn.
"Ceisiodd Llywodraeth Cymru gladdu'r ergyd hon i fyfyrwyr meddygol a chleifion yn y gogledd ar ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.
"Brad ar bobl Bangor, Arfon a'r gogledd i gyd yw hyn."