Brexit yn 'gyfle i wella'r amgylchedd' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Brexit yn cynnig cyfle i wella'r ffordd rydym yn gofalu am amgylchedd Cymru, yn ôl prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd Dr Emyr Roberts fod yr Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfan ond bod "potensial i wneud hyd yn oed yn well".
Mewn cyfweliad cynhwysfawr gyda BBC Cymru fe wnaeth hefyd amddiffyn ei arweinyddiaeth o'r corff amgylcheddol, sydd wedi wynebu blynyddoedd o benawdau anodd.
Fe fydd yn ymddeol ym mis Hydref ar ôl bron i bum mlynedd wrth y llyw.
Atebion Cymreig wedi Brexit
Mae gan yr Undeb Ewropeaidd fwy o gyfreithiau amgylcheddol na'r un wlad na sefydliad arall yn y byd.
Yn y mwyafrif o achosion, staff CNC sy'n gyfrifol am fonitro a yw Cymru yn cyrraedd rheoliadau Ewropeaidd.
Bydd y cyfrifoldebau rheiny yn newid ar ôl Brexit wrth i safonau Cymreig neu Brydeinig gael eu datblygu, gyda mwy o ddyletswyddau yn cael eu gosod ar 'sgwyddau'r rheoleiddiwr o bosib, yn ôl Dr Roberts.
Dywedodd bod rheoliadau llym yr UE wedi arwain at "welliannau sylweddol", gan dynnu sylw at ansawdd dŵr ymdrochi Cymru a lleihad o ran llygredd gan ddiwydiannau.
"Gynta' oll mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r safonau presennol ar ôl Brexit - maen nhw wedi bod yn llwyddiant," meddai.
"Ond efallai y gallwn ni ddefnyddio'r safonau i ddatblygu polisïau gwell - er enghraifft dod ag amaethyddiaeth a chadwraeth yn nes at ei gilydd.
"Mae 'na lot o gyfleon fedrwn ni gymryd i greu atebion Cymreig - lle yn y gorffennol ry'n ni wedi'n rhwystro i ryw raddau."
Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo bod y cyhoedd yn gyffredinol ddim yn ddigon gwerthfawrogol o'r amgylchedd o'u hamgylch ac o'i fuddion.
Penawdau negyddol
Mae Dr Roberts wedi arwain CNC ers ei sefydlu yn 2013 pan ddaeth tri chorff amgylcheddol blaenorol - Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru - ynghyd.
CNC yw'r corff mwyaf yng Nghymru sy'n derbyn ei nawdd gan y llywodraeth, gyda 1,900 o staff ar draws y wlad.
Ond ar ôl blwyddyn roedd y cyflwynydd natur Iolo Williams wedi disgrifio'r corff fel "trychineb o ran cadwraeth", dolen allanol, gydag annibyniaeth CNC o weinidogion yn cael ei gwestiynu dros eu cefnogaeth am drac rasio ger Glyn Ebwy.
Daeth i'r amlwg bod uno cyrff gwahanol yn profi i fod yn sialens enfawr. Cafodd arolygon barn staff eu rhannu â'r wasg a honiadau bod problemau morâl dybryd.
Awgrymodd arolwg 2016 mai dim ond 10% o weithwyr CNC oedd yn teimlo bod y sefydliad wedi'i reoli'n dda.
Yn fwy diweddar, mae ffrae ynglŷn â chytundeb i werthu pren gwerth £39m na chafodd ei gynnig i fwy nac un cwmni wedi denu beirniadaeth lem gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, dolen allanol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad.
Cwynodd y diwydiant coed bod arbenigedd wedi'i golli o fewn CNC, tra bod grwpiau afonydd a physgota wedi ymosod ar y corff hefyd gan ddadlau nad oedd bellach yn "addas i'w bwrpas", dolen allanol.
Ym mis Mai cyhoeddodd Dr Roberts y byddai'n ymddeol, dolen allanol, gan ddweud ei bod yn "bryd rhoi cyfle i rywun arall gymryd y llyw".
Wedi'i holi ynglŷn â'r feirniadaeth gyson a'r penawdau negyddol, dywedodd Dr Roberts wrth BBC Cymru bod hyn yn adlewyrchu'r angerdd y mae pobl yn ei deimlo tuag at amgylchedd Cymru.
"Dwi wedi dod i ddeall yn y swydd yma na allwch chi blesio pawb. Ac mae rhaid i chi gymryd penderfyniadau anodd," meddai
"Be da ni'n trio neud yw gweithio at y tymor hir, edrych ar y dystiolaeth a chymryd y penderfyniadau o hynny.
"Ac os mae'n siomi pobl, mae hynny'n anffodus, ond 'da ni'n gobeithio ein bod ni'n cymryd y penderfyniad cywir bob amser."
'Llawer gwell lle'
Ond fe wnaeth gydnabod bod y difrod sydd wedi'i wneud i enw da CNC yn sgil penawdau negyddol wedi cael effaith ar forâl staff.
Dywedodd bod yr arolwg barn yn 2016, ddangosodd fod llai na hanner gweithwyr y corff yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, wedi bod yn "ddefnyddiol iawn, iawn".
"Mae wedi rhoi darlun clir iawn i ni o'r hyn roedd staff ei angen," meddai.
"Dy'n ni wedi ceisio cyfathrebu yn llawer gwell gyda nhw ers hynny, maen nhw'n cymryd penderfyniadau hefo ni rŵan.
"Felly ry'n ni wedi bod yn gwrando a dwi'n credu ein bod ni mewn llawer gwell lle rŵan."
Perygl toriadau pellach
Wrth iddo baratoi i adael ei swydd, fe rybuddiodd Dr Roberts y gallai'r gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu ddirywio os yw'r corff yn gorfod gwneud arbedion pellach.
Mae'i gyllideb wedi wynebu toriadau o 15% mewn termau real yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Yn ystod yr un cyfnod mae CNC wedi derbyn dyletswyddau statudol ychwanegol wrth i ddeddfwriaeth newydd gael ei gyflwyno, fel y Ddeddf Amgylchedd.
"Dwi'n credu ein bod ni wedi llwyddo rheoli'r sefyllfa yn dda, gan gadw'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw," meddai Dr Roberts.
"Ond o hyn allan dwi'n credu bod 'na bwynt yn dod lle na allwch chi dorri ymhellach heb amharu ar y gwasanaethau rheini."
Cyngor y prif weithredwr i'w olynydd yw gwrando ar leisiau pobl sydd yn ymwneud â'r amgylchedd fel pysgotwyr a ffermwyr
Dywedodd mai ei gyngor i'r person fyddai'n ei olynu fyddai i gyfathrebu'n gyson gyda phobl sydd ynghlwm a'r amgylchedd ar lawr gwlad - "y ffermwyr, y grwpiau cadwriaethol, y coedwigwyr, y pysgotwyr, a sicrhau ein bod ni gyd yn gweithio gyda'n gilydd".
Mae Diana McCrae, cadeirydd CNC, wedi diolch i Dr Roberts am ei "ymrwymiad a'i waith caled yn arwain Cyfoeth Naturiol Cymru".
Dywedodd mai ei blaenoriaeth fyddai sicrhau olyniaeth lyfn, fyddai'n darparu'r arweiniad sydd ei angen "ar ein staff gwych".
Ychwanegodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Chefn Gwlad: "Mae dod a thri chorff ynghyd a chreu rheoleiddiwr effeithiol wedi bod yn dipyn o gamp."