Galw i ariannu brechlyn HPV yn lle tabledi lladd poen
- Cyhoeddwyd
Dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol roi'r gorau i ddarparu cyffuriau lladd poen am ddim ac ariannu brechlyn HPV i fechgyn yn ogystal â merched, yn ôl Aelod Cynulliad.
Yn ôl Angela Burns, byddai cael gwared ar gynnig tabledi lladd poen ar y GIG yn rhyddhau mwy na £16m y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd y gallai'r arian yma gael ei ddefnyddio i ariannu brechlyn Human Papilloma Virus.
Ond mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad o wneud i gleifion dalu am dabledi lladd poen.
Ar hyn o bryd dim ond merched 12-13 oed a dynion hoyw 16-45 oed sy'n derbyn brechlyn yn erbyn HPV - grŵp o firysau sy'n effeithio ar y croen ac yn gallu achosi canser.
'Mwy na digon'
Fis diwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu peidio ymestyn y brechlyn i fechgyn wedi i Gydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu y DU argymell hynny am y tro.
Dywedodd Ms Burns y gallai cyffuriau lladd poen fel paracetamol, aspirin, ibuprofen a co-codomol gael eu prynu am geiniogau mewn archfarchnadoedd neu'r stryd fawr.
Ychwanegodd y byddai'r arbediad yn "fwy na digon" i ariannu brechu'r 36,764 o fechgyn 12 a 13 oed yng Nghymru, gan ddweud y byddai'n costio tua £11m.
Dywedodd Ms Burns y byddai peidio gwneud hynny yn "amddifadu bechgyn ifanc o amddiffyniad gydol oes yn erbyn firws sy'n achosi canser".
Byddai hynny yn ei dro yn arbed degau o filiynau o bunnoedd i'r llywodraeth am fod llai o alw am wasanaethau gofal canser, meddai.
Yn ymateb i alwadau Ms Burns, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething: "Does gen i ddim bwriad gwneud i gleifion canser ac eraill sydd â chyflyrau cronig hirdymor dalu am eu tabledi lladd poen, a'u gadael yn dioddef o boen a gofid cwbl ddiangen.
"Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i ymestyn y rhaglen frechu HPV i fechgyn ifanc, am fod y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cynghori na fyddai'n ddefnydd cost-effeithiol o adnoddau'r GIG."