Bws gwennol i faes yr Eisteddfod ym Môn fore Llun
- Cyhoeddwyd

Mae bysiau gwennol yn rhedeg rhwng Stad Ddiwydiannol Mona a'r Maes
Yn sgil y tywydd gwael mae trefnwyr yr Eisteddfod yn gofyn i bobl adael eu ceir ar faes Sioe Môn a Stad Ddiwydiannol Mona dydd Llun a chymryd bws gwennol i'r Maes.
Mae'r Eisteddfod wedi penderfynu symud maes parcio'r ŵyl dros dro yn sgil dirywiad yn y tywydd ym Modedern.
Yn ôl yr Eisteddfod, bydd y drefn newydd ar waith "am gyfnod ddydd Llun" er mwyn "arbed y tir" o gwmpas y safle parcio presennol.
Mae'r meysydd parcio newydd wedi'u leoli oddi ar gyffordd chwech yr A55, ychydig i'r de-ddwyrain o Faes yr Eisteddfod.

Mae traciau cerdded newydd yn cael eu gosod o amgylch y maes fore Llun

Mae'r trefnwyr am arbed y maes parcio am y tro

Dyw hi ddim yn glir eto nes pryd y bydd y maes parcio yn symud i Fona
Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod bod "arwyddion eisoes mewn lle i arwain teithwyr i'r maes parcio dros dro" a'u bod yn "gofyn i bob teithiwr eu defnyddio".
Dywedodd yr Eisteddfod mai mesur dros dro ydy symud y maes parcio, fel bod y safle parcio ger y Maes mewn cyflwr iawn ar gyfer canol a diwedd yr wythnos.
Brynhawn Llun fe fydd seremoni'r coroni yn cael ei chynnal yn y pafiliwn.

Mae'r Eisteddfod wedi newid eu trefniadau oherwydd y tywydd gwael ddydd Sul
Yn ymateb i'r adroddiadau o oedi cyn cael bws wennol o faes parcio Mona i'r Maes, dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Da ni eisiau i bobl fynd i Fona, a does dim cynlluniau i yrru nhw 'nôl i'r maes arferol.
"Mae 16 o fysus ar hyn o bryd yn cludo pobl ac mae'r bysus yn cario cymaint o bobl ac y medran nhw.
"Mae rhai wedi gofyn pam na fedrwch chi gal mwy o fysus, ond mi fyddai cael mwy o fysus o bosib yn arafu pethau yn hytrach na'i gyflymu.
"Y syniad ydy ein bod yn rhoi llonydd i'r tir yma [ger y Maes] yn y gobaith y bydd yn rhoi cyfle iddo ddod at ei hun.
"Mae pobl yn cwyno fod mwd ar y maes - wrth gwrs fod 'na fwd ar y maes, 'dw i ddim yn credu y byddai unrhyw faes yn unrhyw le wedi copio efo be gafon ni neithiwr.
"Mae'n rhaid i ni gyd fod yn amyneddgar, mae'n rhaid i ni gyd bwyllo, mae'n rhaid i ni gyd beidio â phanicio."