Llywodraeth eisiau diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Fe allai swydd Comisiynydd y Gymraeg gael ei diddymu wrth i weinidogion geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau creu comisiwn i hybu'r iaith a rhoi'r cyfrifoldeb am safonau iaith i weinidogion.
Ond mae'r comisiynydd presennol, Meri Huws, wedi rhybuddio am "golli momentwm" a dadwneud pum mlynedd o "newid".
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai cael gwared â'r rôl yn "gam mawr yn ôl".
Mae'n un o'r newidiadau gafodd eu cyhoeddi mewn Papur Gwyn ddydd Mercher.
Yn ôl y cynlluniau, gweinidogion fyddai'n penderfynu pa reolau neu safonau y dylid eu pennu i ba sefydliadau, gyda'r comisiwn newydd yn gyfrifol am blismona'r rheolau.
Byddai angen i unrhyw newidiadau gael eu cymeradwyo gan ACau mewn pleidlais yn y Senedd cyn cael eu cyflwyno.
Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg mai bwriad y newidiadau oedd creu "cydbwysedd" rhwng "hybu'r Gymraeg... a rheoleiddio gwasanaethau Cymraeg".
"Ry'n ni eisiau canolbwyntio o'r newydd ar y gwaith hybu, ynghyd â newid sut mae system y Safonau'n gweithio i sicrhau ei bod yn rhoi hawliau i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib", meddai Alun Davies.
"Dwi'n credu y bydd Comisiwn y Gymraeg yn gyfrwng cryf i gyflawni'r ddwy nod."
Dywedodd y comisiynydd presennol, Meri Huws bod "unrhyw ddatblygiad i annog siaradwyr i ddefnyddio'r Gymraeg... yn rhywbeth cadarnhaol".
Ond rhybuddiodd bod posibilrwydd o "golli momentwm" wrth i waith ei swyddfa hi ddechrau cydio, bum mlynedd wedi sefydlu'r rôl.
"Mae isie i ni sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn tyfu be' sy' wedi digwydd - yn esblygiad naturiol", meddai.
"Mae 'na newid ar lawr gwlad, dwi'n gallu'i weld e a'i deimlo fe... 'Dyn ni ddim isie colli'r momentwm yna.
"Os gamwn ni'n ôl bum mlynedd yn y broses yma, wnawn ni fyth gyrraedd [y targed o filiwn o siaradwyr yn] 2050."
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe fyddai'r newidiadau yn "troi'r cloc yn ôl" ac mae "cynigion y Llywodraeth yn llanast llwyr".
"Rhwng diddymu Comisiynydd y Gymraeg, lleihau gallu'r cyhoedd i gwyno'n effeithiol a gwanhau'r pwerau i orfodi'r Safonau, byddai hyn yn gam mawr yn ôl", meddai Heledd Gwyndaf, cadeirydd y mudiad.
"Mae angen corff annibynnol i hyrwyddo'r Gymraeg hefyd, ond nid drwy wanhau'r gyfundrefn rheoleiddio mae gwneud hynny. Mae angen un pencampwr cryf i ganolbwyntio ar reoleiddio, ac mae angen mwy o reoleiddio, nid llai."
Ychwanegodd: "Mae cynigion y Llywodraeth yn llanast llwyr.
"Ar yr un llaw roedd Alun Davies bore yma yn dweud y byddai am gynnwys y sector preifat o dan Safonau, ond mae'r papur gwyn yn nodi'n bendant nad oes bwriad gyda'r llywodraeth i wneud hynny."
Daeth beirniadaeth bellach o'r cynllun gan Blaid Cymru, gyda'u llefarydd ar yr iaith, Siân Gwenllian AC, yn dweud y byddai'n "gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg".
"Does gan Lywodraeth Cymru ddim gobaith o gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr os nad yw rheoleiddio wrth galon y strategaeth", meddai.
"Mae'n rhaid deddfu er mwyn amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg. Mae diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg yn gam yn ôl."
'Dadl dros ddiwygio'
Dywedodd y Ceidwadwyr bod lle i newid rôl Comisiynydd y Gymraeg ond na ddylai fod yn "esgus i gael gwared â chefnogaeth hyd braich i'r iaith".
"Mae dadl dros ddiwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg, a'i wneud yn fwy atebol i'r Cynulliad yn hytrach na Llywodraeth Cymru", meddai Suzy Davies AC.
Ychwanegodd ei bod "wastad wedi credu mai camgymeriad oedd dychwelyd y cyfrifoldeb dros hyrwyddo'r Gymraeg i'r llywodraeth" a bod hynny wedi gwneud swydd y comisiynydd yn galetach.
Fe fydd 'na gyfnod ymgynghori nawr ar gynlluniau Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfnod yn dod i ben ar 31 Hydref.