'200 yn llai' o heddlu oherwydd diffyg arian hyfforddi
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd gan Gymru 200 yn llai o heddweision nag y dylai gael erbyn 2021 oherwydd diffyg o £10m mewn arian hyfforddiant, yn ôl penaethiaid heddlu.
Mae llythyr Grŵp Plismona Cymru Gyfan i'r Gweinidog Cyllid Mark Drakeford yn rhybuddio y byddai'n rhaid un ai torri cyllideb heddlu rheng flaen, neu leihau safonau hyfforddiant yn is na rhai Lloegr.
Maen nhw'n enwedig yn bryderus nad yw'r £2m o ardoll prentisiaeth maen nhw'n ei dalu yn cael ei wario ar hyfforddi heddweision.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r ardoll yn llenwi'r bwlch y mae toriadau'r Trysorlys wedi'i adael.
'Dan anfantais'
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones yn y llythyr bod lluoedd Cymru "dan anfantais" ariannol ac o ran hyfforddiant o'i gymharu â Lloegr.
Rhybuddiodd bod Cymru'n wynebu bil o £8.9m ar gyfer Fframwaith Addysg a Chymwysterau'r Heddlu (PEQF) erbyn 2020/21.
Mae lluoedd Lloegr yn gorfod ariannu 8% o gostau hyfforddi heddweision, gyda'r gweddill yn dod o'r ardoll prentisiaeth.
Ond dywedodd Mr Jones bod lluoedd Cymru'n wynebu talu bron i 100% o'u cyllidebau eu hunain.
Byddai ddiffyg o £10m yn golygu 200 yn llai o heddweision erbyn 2021, ac mae Cymru eisoes wedi colli 2,500 o staff heddlu ers 2010, meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gweinidogion wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd am y mater o hyfforddi heddweision.
"Tra'n bod yn gefnogol o'r PEQF mewn egwyddor, rydyn ni wedi bod yn glir mai gan y Swyddfa Gartref y mae'r cyfrifoldeb am faterion gweithredol yr heddlu, gan gynnwys hyfforddiant, ac y dylai ariannu hyfforddiant nes bod plismona'n cael ei ddatganoli," meddai.
Ychwanegodd y llefarydd bod mai treth Llywodraeth y DU yw'r ardoll prentisiaeth, sydd ddim yn cyd-fynd ag ardaloedd ble mae pŵer wedi'i ddatganoli.
Gan fod polisi sgiliau wedi'i ddatganoli, dyw'r arian ddim o reidrwydd yn cael ei wario ar brentisiaethau yng Nghymru.
Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn siâr o'r arian, sydd wedi'i seilio ar lefel y boblogaeth fel rhan o fformiwla Barnett.
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod pob llu yn talu'r ardoll prentisiaeth, "ac yng Nghymru mae'r arian yna yn cael ei basio yn ôl i Lywodraeth Cymru".