Angladd merch fu farw mewn gwrthdrawiad ym Merthyr
- Cyhoeddwyd

Bu farw Pearl Melody Black yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Heolygerrig, Merthyr Tudful
Mae angladd merch fach o Ferthyr Tudful fu farw mewn gwrthdrawiad gyda char heb yrrwr ynddo wedi cael ei gynnal.
Bu farw Pearl Melody Black, oedd yn flwydd oed, yn dilyn y digwyddiad pan rowliodd Range Rover ar hyd ffordd a tharo yn erbyn wal wnaeth ddisgyn arni yn ardal Heolgerrig ar 6 Awst.
Cyn y gwasanaeth ddydd Gwener fe adawodd ceffyl a throl gartref y teulu a theithio i Eglwys y Bedyddwyr yn Heolcerrig, ac wedyn ymlaen i amlosgfa Llwydcoed.
Yn dilyn ei marwolaeth, rhoddodd deulu Pearl deyrnged iddi gan ddweud ei bod "mor ddisglair â'r sêr".

Cafodd Pearl a'i brawd wyth mis oed eu cludo i Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, ond bu hi farw.
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ar 10 Awst i farwolaeth y ferch fach a dywedodd swyddog y crwner, Gareth Heatley: "Wrth i'r cerbyd godi momentwm lawr y llwybr mae wedi teithio ar hyd ffordd ac ar lwybr droed yr ochr arall gan ddinistrio wal.
"Mae'r wal wedi dymchwel ac yn anffodus fe wnaeth ddymchwel ar ben Pearl, a oedd yn cerdded ar y llwybr, gan achosi anafiadau o ganlyniad i wasgfa."

Peter Black, tad Pearl, ar y chwith