Merched arloesol y byd gwerin
- Cyhoeddwyd
Yn Sir y Fflint ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, penderfynodd gwraig yr aelod seneddol lleol y byddai'n prynu'r peiriant recordio mwyaf cyfoes oedd ar y farchnad a mynd allan i recordio'r Cymry yn canu eu hen ganeuon.
Teithiodd o gwmpas y wlad mewn cart a cheffyl yn ymweld â thlotai a ffermydd i roi caneuon traddodiadol ar gof a chadw am y tro cyntaf.
Lady Ruth Herbert Lewis oedd enw'r wraig ac oni bai am ei gwaith hi a nifer o ferched arloesol eraill mae'n bosib na fyddai neb yn canu caneuon fel Deio i Dywyn a Dacw Nghariad i Lawr yn y Berllan yng Nghymru heddiw.
Mae'r cerddor a'r cyflwynydd Georgia Ruth Williams yn dweud ei bod wedi "rhyfeddu" i ddarganfod mai merched sydd wedi bod yn gyfrifol am gadw a chofnodi llawer iawn o'n caneuon gwerin mwyaf adnabyddus - maes sy'n aml yn cael ei gysylltu gyda dynion fel Meredydd Evans a Roy Saer.
Fe ddysgodd am eu cyfraniad wrth gyflwyno'r rhaglen Hen Ferchetan ar Radio Cymru sy'n trafod rôl y ferch yn y traddodiad gwerin.
"Roedd Ruth Herbert Lewis yn arloeswraig - y person cyntaf i gasglu'r caneuon yma efo peiriant ffonograff Edison yng Nghymru," meddai Georgia.
"Fersiwn gludadwy oedd ganddi ac roedd hi'n gallu mynd â fo rownd efo hi. Roedd ganddo gorn alwminiwm fel yr hen chwaraewyr recordiau - roedd yn dechnoleg gyffrous a newydd ar y pryd.
"Fe wnaeth hi benderfynu ei bod yn mynd i recordio pobl yn canu o gwmpas Sir y Fflint a Sir Ddinbych tua 1910 ac roedd yn mynd o gwmpas mewn cart a cheffyl."
Persbectif o'r tu allan
A'r syndod pellach am Lady Herbert Lewis ydy nad Cymraes oedd hi o gwbl.
"Beth oedd yn ddiddorol am Ruth Herbert Lewis oedd mai Saesnes oedd hi wnaeth ddysgu Cymraeg," meddai Georgia.
"Dod at y diwylliant o'r tu allan wnaeth hi - felly efallai fod ganddi bersbectif gwahanol ar y diwylliant, yr iaith a'r caneuon."
Mae un o gystadleuthau'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ei henwi er cof amdani hi a'i gwaith.
Titrwm Tatrwm
Mae Iolo Morgannwg yn cael ei gydnabod fel cofnodwr pwysig o'n cerddoriaeth werin ond roedd yn cyfeirio yn ei waith at fenyw arall oedd yn un o'r casglwyr cynharaf, Mair Richards Darowen, oedd yn casglu caneuon fel Codiad yr Ehedydd a Merch Megan mor bell yn ôl â 1813.
Cafodd Dacw Nghariad i Lawr yn y Berllan ei gofnodi gan gantores broffesiynol o'r enw Mary Davies yn ardal Eglwys Newydd, Caerdydd.
A chantores arall, Grace Gwyneddon Davies, wnaeth gofnodi Titrwm Tatrwm, sy'n dal i gael ei chanu heddiw gan artistiaid cyfoes fel The Gentle Good.
Roedd Ruth Herbert Lewis yn un o'r menywod oedd yn allweddol yn sefydlu'r Gymdeithas Alawon Gwerin ac yn ôl yr Athro Wyn Thomas o Brifysgol Bangor fyddai'r maes hwn ddim wedi datblygu i'r graddau ag y mae oni bai am y gwragedd hyn.
Ond mae'r ddadl nad oes digon o lwyfan i ferched yn y sîn gerddoriaeth yn dal i gael ei chlywed yng Nghymru heddiw.
"Yn anffodus dwi'n dal i deimlo mewn unrhyw sîn gerddorol, ar y cyfan, bod mwy o ddynion yn recordio ac yn rhyddhau cerddoriaeth ac mae'r diffyg cydbwysedd yn dal i fodoli er mod i'n credu bod y sefyllfa'n fwy cytbwys yn y byd gwerin.
"Mae pethau'n dechrau newid dipyn bach ond mae'n dal yn rhwystredig. Felly'r mwya' fedrwn ni edrych nôl mewn hanes a gweld yr arloeswyr benywaidd yma y mwyaf gawn ni'n hysbrydoli.
"Pan mae rhywun yn meddwl am y cyfnod Edwardaidd pan oedd Ruth yn gwneud hyn, mae'n cyd-fynd yn berffaith efo merched yn dechrau hawlio'r bleidlais ac yn y blaen felly dwi'n siwr fod 'na elfen o emancipation yn yr hyn roedd hi'n ei wneud.
"Ac oes oedd rhywun fel hi yn medru gwneud pethau fel'na yn y cyfnod yna wel, beth fedren ni wneud nawr?"