Cofebion Cywilydd
- Cyhoeddwyd
Wel, dyma fi yn ôl ar ôl haf hirfelyn tesog, neu efallai ddim! Beth sydd wedi bod ar y news tra o'n i bant, dywedwch? Wel dim byd llawer yng Nghymru fach, hyd y gwelaf i. Dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi colli lot!
Ond os fuodd 'na thema fwy eang i'r cyfnod diweddar mae'n debyg mai cofebion a cherfluniau yw honno. Cawsom, neu, yn hytrach, ni chawsom, y fodrwy haearn yn y Fflint. Esgorodd protest a llofruddiaeth yn Charlotsville ar eiriau gorffwyll ac argyfwng arall eto i'r Arlywydd Trump a draw yn Awstralia mae protestwyr / fandaliaid (dewiswch chi) wedi bod yn difrodi cofebion i'r glaniad Prydeinig.
Hyd y gwn i does neb wedi codi cwestiwn ynghylch cofebion yng Nghymru a allasai fod yn anghymwys i'n hoes ni, rhai sy'n haeddu eu symud neu o leiaf eu esbonio'n well.
Mae 'na ambell i un yn neidio'n syth i'r meddwl ac mae'n rhyfeddod bod yr un sydd ar frig y rhestr yn un a godwyd mor ddiweddar â 2011. Cerflun HM Stanley yn Ninbych yw hwnnw ac rwy'n ei chael hi'n anodd deall hyd heddiw pam yr oedd unrhyw un yn credu bod coffáu'r dihiryn hwnnw'n syniad da! Efallai eu bod yn gwybod mwy am stori blant "Dr Livingstone, I presume" na'i ran waedlyd yn hil-laddiad y Congo.
Beth wedyn am gofeb Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin? Anghofiwch fod Wellington ei hun wedi ei ddisgrifio fel "a rough foul-mouthed devil", mae Cyfeillion Amgueddfeydd Sir Gâr yn mynnu ei fod yn 'gallant general' am ryw reswm.
Ond nid rhan Picton yn rhyfeloedd Napoleon sy'n taflu cwmwl dros y golofn hon ond ei gyfnod gwaedlyd fel llywodraethwr Trinidad lle'r oedd ei driniaeth o gaethweision yn cael ei ystyried yn greulon ac yn waedlyd, hyd yn oed o safbwynt safonau ei oes ei hun. Ydy gŵr wnaeth sefyll ei brawf dwywaith am orchymyn arteithio merch ifanc, gymysg ei hil, yn haeddu cael ei goffáu? Fe ddylid o leiaf ystyried y cwestiwn.
A beth am yr holl feistri haearn a glo yna? Do, fe wnaethon nhw drawsnewid Cymru ond ar ba gost? Dyna chi Lloyd George wedyn. Ydy e'n cael pas rhad am ei bolisïau yn Iwerddon?
Ar y cyfan, dydw i ddim yn un sy'n cefnogi symud na difa cofebion ond mae 'na ddadl gref dros eu gosod mewn cyd-destun, boed hynny er gwell neu er gwaeth. Wedi'r cyfan onid yw John Bachelor, "Friend of freedom" yr Aes yn haeddu gwell na chael ei adnabod fel y boi 'na 'da côn traffig ar ei ben?