Achub cannoedd o adar drycin Manaw o draeth ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o adar drycin Manaw yn cael eu hachub oddi ar draeth Niwgwl yn Sir Benfro ar ôl iddyn nhw fynd i drafferth tra'n mudo.
Yn ôl un o ohebwyr BBC Cymru mae dros 100 o'r adar wedi marw ac mae dros 130 wedi cael eu hachub gan swyddogion o elusen yr RSPCA.
Roedd 20 yn rhagor o'r adar mewn cyflwr difrifol, a bu'n rhaid eu difa.
Mae'r adar sydd wedi goroesi bellach wedi cael eu cymryd i ganolfan achub anifeiliaid er mwyn iddyn nhw gael eu hasesu.
"Rhy wan a blinedig"
Dros fisoedd yr haf mae'r adar, sydd o ddiddordeb arbennig, yn nythu a magu cywion ifanc ar Ynys Sgomer, cyn mudo dros Fôr Iwerydd i Ariannin yn mis Medi.
Ond yn ôl elusen y Sea Trust, mae'r adar wedi cael ei chwythu oddi ar eu llwybr mudo gan wyntoedd cryfion dros y dyddiau diwethaf, a'u bod nhw'n rhy wan a blinedig i fentro yn ôl i'r môr.
Yn y cyfamser, mae RSPCA Cymru wedi achub aderyn drycin Manaw o ffordd yn Aberystwyth. Cafodd y creadur ei ddarganfod mewn cyflwr dryslyd a blinedig yng nghanol ffordd yn y dref ddydd Iau diwethaf.
Mae'r elusen yn gofyn i bobl i fod ar eu gwyliadwraeth am yr adar, allai gael ei chwythu oddi ar eu llwybr mudo, ond i beidio mynd yn rhy agos atyn nhw am fod ganddyn nhw big miniog.