Bwrw 'mlaen â chynllun gorsaf fws newydd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
GorsafFfynhonnell y llun, Rightacres
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut oedd yr orsaf i fod i edrych yn ôl cynlluniau gwreiddiol y datblygwyr

Bydd Cyngor Caerdydd yn bwrw 'mlaen â chynllun dadleuol i godi fflatiau myfyrwyr uwchben gorsaf fysiau newydd y ddinas.

Roedd y cynghorydd Neil McEvoy wedi galw am adolygu'r cynllun, sy'n rhan o ddatblygiad Sgwâr Canolog, gan ddadlau nad oedd fflatiau myfyrwyr yn addas ar gyfer safle mor bwysig.

Mewn cyfarfod o bwyllgor craffu'r cyngor nos Fercher fe benderfynodd cynghorwyr y dylai penderfyniad y cabinet sefyll.

Ar ôl clywed tystiolaeth gan Mr McEvoy a'r aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun, Russell Goodway, fe benderfynodd y pwyllgor yn unfrydol bod angen bwrw 'mlaen â'r cynllun er gwaetha'r amheuon ynglŷn â chael fflatiau myfyrwyr ar y safle.

'Safon isel'

"Dwi'n gallu clywed pobl yn fy ward i nawr, a'r hyn maen nhw'n ei ddweud yw clatsiwch bant," meddai'r cynghorydd Ed Stubbs.

"Dwi'n rhannu'r pryderon am fflatiau myfyrwyr," meddai'r cynghorydd Adrian Robson, "ond os mai dyma'r ffordd i gael y maen i'r wal mae'n rhaid i ni fwrw 'mlaen."

Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd Mr McEvoy bod y cyngor wedi "gwerthu mas i gyfalafwyr sydd am wneud pres cyflym".

Ychwanegodd y byddai'r ddinas yn colli arian ar drethi busnes o ganlyniad ac roedd yn siomedig hefyd y byddai fflatiau myfyrwyr o safon isel yng nghanol ein prifddinas.

Er iddyn nhw gefnogi'r cynllun nododd y pwyllgor y byddai'n well ganddyn nhw weld swyddfeydd na fflatiau myfyrwyr pe bai hynny'n bosibl.

Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy hefyd yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru

Roedd cynlluniau'r datblygwyr, Rightacres - gafodd eu cymeradwyo gan y cyngor ym mis Mawrth - yn cynnwys llety i fyfyrwyr, siopau, fflatiau preifat, maes parcio a swyddfeydd.

Ond mewn adroddiad i gynghorwyr ym mis Gorffennaf dywedodd Rightacres ei fod eisiau newid y fflatiau preifat a'r swyddfeydd yn fwy o lety ar gyfer myfyrwyr.

'Opsiwn diog'

Fe wnaeth cabinet y cyngor gymeradwyo'r newid, ond dywedodd Mr McEvoy cyn y cyfarfod bod fflatiau i fyfyrwyr yn "opsiwn diog i gyngor sydd wedi rhedeg allan o syniadau yn llwyr".

"Mae amser a lle ar gyfer fflatiau myfyrwyr ond nid nawr yw'r amser, ac yn sicr nid Ardal Fenter Canol Caerdydd yw'r lle," meddai.

"Man ar gyfer swyddi yw fanno."

Y bwriad yn wreiddiol oedd i'r orsaf agor ym mis Rhagfyr 2017, ond mae'r cyngor wedi rhybuddio y bydd angen cais cynllunio newydd ar gyfer unrhyw newidiadau.