Cymry yng nghanol trafferthion refferendwm Catalunya
- Cyhoeddwyd
Wrth i olygfeydd treisgar ar strydoedd Barcelona gael eu darlledu ar draws y byd, mae un dynes o Gymru sy'n byw yng Nghatalunya wedi "dychryn" ac yn "flin iawn iawn" gyda'r sefyllfa.
Fe ddaw'r trafferthion wrth i'r rhanbarth gynnal refferendwm ar annibyniaeth, a hynny gan fod llywodraeth Sbaen wedi gorchymyn yr heddlu i geisio atal y bleidlais rhag digwydd.
Mae tystion yn y brifddinas ranbarthol, Barcelona, yn dweud fod yr heddlu wedi tanio bwledi rwber, ac wedi defnyddio pastynau yn ystod y protestiadau o blaid annibyniaeth ddydd Sul.
Ond mae llywodraeth Sbaen wedi datgan bod y refferendwm yn "anghyfreithlon" ac yn "anghyfansoddiadol".
Dywed yr awdurdodau fod o leiaf 460 o bobl wedi eu hanafu, a'r rhan fwyaf ohonynt yn fan anafiadau, a bod o leiaf 11 o swyddogion yr heddlu wedi eu hanafu.
Dywedodd Alwena Castel, sy'n wreiddiol o Langollen, ond yn byw oddeutu awr tu allan i Barcelona, wrth Cymru Fyw ei bod "wir wedi dychryn" gyda'r sefyllfa yno ddydd Sul.
"Mi es i allan i bleidleisio i ganol dinas Barcelona fore heddiw, ond methais fynd i mewn i wneud gan fod yr heddlu yn ein rhwystro rhag mynd at y blychau pleidleisio.
"Roedd yn rhaid i mi adael Barcelona, os am allu pleidleisio o gwbl, felly, es yn ôl i Llinnas del Vallesnas er mwyn cael siawns i bleidleisio.
"Mae 'na heddlu arfog allan ar y strydoedd yn curo pobl ar y llawr, ac mae 'na bobl o bob oed yn eu canol, gan gynnwys hen bobl, plant, a 'dwi wedi gweld dyn mewn cadair olwyn."
Eglurodd Ms Costell hefyd fod pobl yn yr ardal yn cael trafferth defnyddio'r we, wedi adroddiadau fod yr heddlu wedi meddiannu canolfan telegyfathrebu'r llywodraeth ddatganoledig.
"Mae 'na gasineb ar wynebau'r heddlu yma, ac mae pobl yn flin iawn, ac yn eu dagrau wrth iddyn nhw weld hyn.
"Mae pobl yn flin iawn iawn yma a wir wedi dychryn efo'r ffordd mae llywodraeth Sbaen wedi ymateb i'r refferendwm.
"Fe aeth fy merch allan i giwio tu allan i un o'r ysgolion sy'n cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio am bump o'r gloch y bore, a tydi hi dal heb gael mynd i mewn."
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Sul, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Sbaen, Soraya Saenz de Santamaria, fod yr heddlu wedi ymateb yn "broffesiynol ac mewn ffordd oedd yn addas i'r sefyllfa".
'Golygfeydd ysgytwol'
Roedd Rhaglen Dewi Llwyd yn cael ei darlledu'n fyw ar Radio Cymru o Barcelona fore Sul.
Dywedodd Dewi Llwyd wrth Cymru Fyw: "Hyd yn oed yn Sbaen, lle mae gan yr awdurdodau draddodiad o ymateb mewn modd llawdrwm, mae golygfeydd heddiw wedi bod yn rhai ysgytwol.
"Fel rhywun a dreuliodd amser yma yng nghyfnod y Cadfridog Franco, doeddwn i ddim yn disgwyl, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, y byddai dulliau mor dreisgar yn cael eu defnyddio i atal pleidlais ddemocrataidd, hyd yn oed os ydi honno'n cael ei hystyried yn anghyfreithlon gan lywodraeth Madrid.
"Beth bynnag fydd yn digwydd wedi i'r blychau pleidleisio gau am 21:00, mae'r dyddiau nesaf yn mynd i fod yn rhai anodd tu hwnt. A faint o bleidleisiau fydd i'w cyfrif beth bynnag, o gofio bod yr heddlu wedi cymryd cynifer o flychau?"
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd wedi mynegi ei siom o weld y golygfeydd treisgar ar strydoedd Barcelona. Dywedodd ar wefan Twitter: "Golygfeydd dychrynllyd ar strydoedd #Catalonia heddi. Pan fydd trais yn disodli democratiaeth a deialog, nid oes enillwyr."
Dadansoddiad Dr Siân Edwards, Arbenigwr ar Astudiaethau Sbaenaidd o Brifysgol Caerdydd
'Rhith' oedd disgrifiad prif weinidog Sbaen am y bleidlais heddiw; 'breuddwyd' yw annibyniaeth i lywodraeth Catalwnia.
Parhau mae'r ddwy ochr i ddilyn eu cwys eu hunain.
Ond heddiw aeth y sefyllfa'n waeth gydag ymateb ymosodol gan heddlu Sbaen, ac fe achosodd hynny niwed hir dymor i'r berthynas rhwng Catalwnia a'r wladwriaeth.
Mae unrhyw gymodi yn edrych ymhellach nag erioed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2017