Cylchffordd: Pennaeth yn gwrthod rhyddhau adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn oedd y tu ôl i'r cynllun i adeiladu trac rasio gwerth £433m yng Nglyn Ebwy wedi atal adroddiad allweddol i'w gefndir rhag cael ei ryddhau, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth gweinidogion wrthod cais i warantu £210m o gyllid Cylchffordd Cymru ym mis Mehefin, gan ddweud y byddai wedi cael effaith ar rannau eraill o'i chyllideb.
Roedd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, a'i gyfarwyddwr Michael Carrick, eisoes wedi sicrhau cytundeb i gynnal y MotoGP yno nes 2024, a hynny ar gryfder y cynlluniau'n unig.
Mae gwleidyddion y gwrthbleidiau wedi cyhuddo Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, o ddyfynnu ffigyrau camarweiniol ar nifer y swyddi fyddai'n cael eu creu fel cyfiawnhad i beidio bwrw 'mlaen â'r cynllun.
Ddydd Gwener fe wnaeth Mr Skates ryddhau cyfres o ddogfennau oedd yn rhan o'r broses "diwydrwydd dyladwy" cyn y penderfyniad.
Ond dywedodd: "Dydyn ni ddim wedi gallu cyhoeddi fersiwn llawn na chrynodeb o'r prawf 'person addas a phriodol' oherwydd bod Michael Carrick eto i gytuno i'w ryddhad."
Mae un ddogfen gan yr ymgynghorwyr Regeneris yn awgrymu mai nifer y swyddi parhaol fyddai wedi cael eu creu gan y trac rasio oedd 115 - ffigwr tebyg i'r 100 oedd yn cael ei ddyfynnu gan Mr Skates ym mis Mehefin.
Mae Regeneris hefyd yn dweud bod y datblygwr wedi awgrymu y byddai'n creu 7,307 o swyddi adeiladu, ond fe wnaeth eu hymchwil nhw awgrymu mai 2,480 fyddai'r ffigwr.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod y nifer yma yn cynrychioli tua 500 o swyddi dros gyfnod o bum mlynedd.
Mae adroddiad arall gan Grant Thornton yn awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwarantu 56% o'r cynllun, er bod gweinidogion wedi mynnu mai 50% oedd y ganran fwyaf oedd yn bosib.
Roedd Grant Thorton yn bryderus hefyd bod y datblygwyr eisiau cymryd £59m o'r cynllun fel elw.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Skates bod y dogfennau yn amlygu'r risgiau fyddai wedi'u creu pe byddan nhw wedi gwarantu'r arian.
Mae gweinidogion eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau am barc moduro gwerth £100m ym Mlaenau Gwent.
'Osgoi embaras'
Ddydd Iau dywedodd Plaid Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi "dewis a dethol" y ffigyrau yn adroddiad Regeneris.
Dywedodd llefarydd y blaid ar yr economi, Adam Price: "Mae'n amlwg i mi fod y llywodraeth wedi defnyddio'r ffigyrau isaf yn yr adroddiad er mwyn osgoi'r embaras am eu bod wedi gwrthod cynllun oedd â photensial sylweddol, a hynny ar ôl buddsoddi miliynau ynddo."
Er eu bod wedi'i wrthod yn y pendraw, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi £9m i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd i ddatblygu'r cynlluniau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017