Tacsis Uber 'angen rheoliadau cryfach' medd Ken Skates

  • Cyhoeddwyd
UberFfynhonnell y llun, PA

Mae pryderon ynglŷn â chwmni tacsi Uber wedi arwain at alwadau i gryfhau'r safonau sy'n eu llywodraethu yng Nghymru.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, dylai pobl allu dibynnu ar "gyflogau teg" ym mha bynnag sector maen nhw yn gweithio ynddo.

Mae'r cwmni tacsi, sy'n defnyddio ap ffon symudol i weithredu, wedi wynebu sawl helbul a bellach wedi colli ei drwydded i weithredu yn Llundain.

Mae Uber yn dweud bod eu gyrwyr yn derbyn £15 yr awr, ond mae Llywodraeth Cymru eisiau i bob tacsi gael eu rheoleiddio.

Pryderon

Y flwyddyn nesaf bydd y pwerau i reoleiddio'r diwydiant yn cael eu datganoli i Gymru.

Dywedodd Mr Skates bod Uber, sy'n gweithredu yng Nghaerdydd a Chasnewydd, wedi bod yn "arloesol" ond bod yna bryderon ynglŷn â'u "harferion cyflogaeth".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates eisiau gwneud yn siŵr bod gyrwyr Uber yn gallu dibynnu ar gyflogau teg

Ychwanegodd ei fod eisiau sicrhau bod gyrwyr yn medru dibynnu "ar gyflogau teg ar gyfer eu gwaith".

Ond dywedodd Mr Skates hefyd nad oes yna achos penodol yng Nghymru sydd wedi "gwarantu ymchwiliad".

Dywedodd hefyd ei bod hi'n "bwysig cryfhau safonau er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon mawr" sydd wedi codi yn sgil achosion amlwg yn y wasg.

Prisiau cyson?

Mae'r llywodraeth eisiau system lle mae teithwyr yn medru gwybod beth yw ansawdd y gwasanaeth a'r pris y bydd disgwyl iddyn nhw dalu, ond hefyd bod y gyrwyr yn medru ennill cyflog byw.

Ar hyn o bryd nid yw prisiau ar gyfer cerbydau preifat, fel Uber, wedi eu rheoleiddio.

Yr awgrym gan Mr Skates yw cyflwyno prisiau cyson ar gyfer tacsis a cherbydau preifat.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cwmni Uber lansio yng Nghaerdydd y llynedd

Llynedd fe enillodd undeb GMB achos cyflogaeth yn erbyn Uber, ar ôl i ddau yrrwr ddadlau eu bod wedi eu cyflogi gan y cwmni, ond nad oedd ganddynt hawliau cyflogaeth sylfaenol.

Mae Uber yn apelio ac yn dweud bod eu gweithwyr yn hunangyflogedig.

Mae'r cwmni hefyd yn apelio er mwyn ceisio cael yr hawl i weithio yn Llundain unwaith eto.

Yn ôl Uber mae "mwyafrif mawr" o'u gyrwyr yn mwynhau'r rhyddid o fod yn hunangyflogedig.

Dywedodd y llefarydd eu bod wedi buddsoddi mewn nifer o newidiadau cyflogaeth yn ddiweddar a'u bod yn dilyn rheoliadau sydd wedi eu gosod ar gwmnïau sydd â cherbydau preifat.