Dau ar y donfedd
- Cyhoeddwyd
Does neb yn dymuno bod yn glaf mewn ysbyty ond os ydych chi'n cael eich hun yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar nos Iau fe allech chi glywed cyfweliad arbennig gydag artistiaid fel Elin Fflur ac Yws Gwynedd.
Michael Aaron Hughes ac Aaron Pleming sydd biau'r slot wythnosol rhwng 6pm a 7pm ar Radio Ysbyty Gwynedd, dolen allanol bob yn ail nos Iau.
Mae'r ddau yn gyfarwydd i'r rhai sy'n mynd i gigs yn ardal Caernarfon ac maen nhw wrth eu bodd efo cerddoriaeth.
Dangosodd Michael faint mae'n wybod am gerddoriaeth Gymraeg rai blynyddoedd yn ôl wrth fynd benben â Dyl Mei mewn cwis pop ar Raglen Tudur Owen ar Radio Cymru (mae ganddo OMB ar ôl ei enw ers hynny!)
Mae wedi bod yn cyflwyno ar radio'r ysbyty ers sawl blwyddyn ond dim ond ers rhyw flwyddyn mae Aaron wedi ymuno efo fo.
"Nes i ddod yma pan oedd Radio Ysbyty Gwynedd yn 40 a ges i fod ar y radio efo Michael y diwrnod yna ac ers hynny mae o 'di gweithio allan," meddai Aaron.
"Cael gwesteion ydi'r peth gorau - yr enwau mawr i gyd. 'Da ni methu coelio bod ni 'di llwyddo i gael nhw!"
Synnwyr Cyffredin oedd eu gwestai cyntaf ac ers hynny mae Aaron wedi bod yn brysur yn cysylltu gyda phobl ar Facebook i ofyn iddyn nhw gymryd rhan.
"Ro'n i'n gweld hi'n anodd bwcio Elin Fflur achos mai'n ddynes brysur," meddai Aaron, sy'n 27 ac o Gaernarfon.
"Ond gathon ni hwyl yn gwneud cyfweliad efo hi."
"Mae'n siŵr bod hi'n rhyfadd iddi hi achos hi sydd yn arfer cyfweld pobl eraill," ychwanegodd Michael, 26, o Lanberis.
"Roedd Yws Gwynedd yn lyfli hefyd chwarae teg," meddai Aaron.
"Nes i ddigwydd gyrru neges ar Facebook a gofyn 'wyt ti'n ffansi dod fewn' a nath o ddeud 'iawn'."
Bywyd prysur
Mae Michael ac Aaron yn adnabod ei gilydd ers pan oedden nhw'n blant bach ac yn rhannu'r un ffisiotherapydd.
Mae'r ddau'n defnyddio ffrâm gerdded neu gadair olwyn i'w helpu i gerdded.
Roedd y ddau hefyd yn ddisgyblion yn uned anghenion arbennig Ysgol Syr Hugh Owen.
Mae Aaron, sy'n dioddef o barlys yr ymennydd (cerebral palsy), yn gwirfoddoli gyda elusen Whizz-Kidz sy'n helpu plant anabl i gael cadeiriau olwyn.
"Dwi ddim yn un am iwsho'r cardyn fod gynnai anabledd ond dwi wedi ei roi o ar fy mhroffeil Twitter jyst am mod i isho i bobl wybod fod o gen i," meddai.
"Ond dwi ddim yn gadael iddo fo fynd o'r ffordd be dwi isho'i wneud."
Mae hefyd yn perfformio mewn ysgolion gyda theatr fforwm Gisda.
Mae Michael yn treulio tridiau'r wythnos gyda Menter Fachwen, elusen leol sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau, ac yn gwneud gwaith gwirfoddol hefyd.
Ond mae'n gallu bod yn anodd bod yn ddibynnol ar bobl eraill i ddau sydd mor hoff o fynd i weld bandiau a mwynhau gigiau.
"Mae gynnon ni ffrindiau sy'n helpu, mi wnawn nhw nôl drincs inni mewn gigs a ballu," meddai Michael.
"Mae'n anodd, os dwisho mynd allan am 'chydig o ddrincs efo ffrindiau, dwi'n gorfod gofyn i Mam ydy hi'n iawn ifi fynd. A gofyn am lifft hefyd," meddai Aaron.
"Mi rydan ni'n gorfod meddwl am bethau fel sut mae cael access, oes 'na doilet anabl a access i'r toiled," ychwanegodd.
Dylanwadu ar y teulu
Bydd Aaron yn mynd i weld Little Mix, un o'i hoff fandiau, am y trydydd tro ddiwedd mis Tachwedd a Steps hefyd ddechrau mis Rhagfyr.
Michael sydd wedi ei gyflwyno i gerddoriaeth Gymraeg ac erbyn hyn mae'r ddau'n dylanwadu ar chwaeth gweddill eu teuluoedd hefyd.
Mae ei rieni wedi cael eu "gorfodi" i wrando ar fandiau Cymraeg wrth fynd â fo i gigs, meddai Michael, sydd wedi bod yn hoff o John ac Alun a Dafydd Iwan ers mae'n blentyn.
Mae mam Aaron hefyd erbyn hyn yn hoffi Yws Gwynedd am fod Aaron yn gwrando yn y car: "Sebona Fi mae hi'n licio!" meddai.
Ar y rhaglen maen nhw'n chwarae caneuon sy'n boblogaidd ymysg y cleifion hŷn.
"Be ma' nhw'n licio ydy John ac Alun, Dafydd Iwan, Wil Tân, Trebor Edwards a Timothy Evans," meddai Michael ond maen nhw'n cynnwys grwpiau mwy diweddar fel Candelas a Sŵnami weithiau hefyd.
Eu syniad nhw oedd cyflwyno gwesteion i'r rhaglen. Phil Gas a'r band yw'r diweddaraf ac mae Michael yn edrych ymlaen yn fawr at eu gig gyda Bryn Fôn a John ac Alun yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 4 Tachwedd.
Mae'r ddau hefyd wrth eu boddau'n cyflwyno gigs, rhywbeth y cawson nhw ei wneud dros haf 2017 yn yr Eisteddfod ac yng Nghaernarfon.
Beth bynnag wnân nhw yn y dyfodol, mae'n sicr y bydd yn ymwneud â cherddoriaeth mewn rhyw ffordd.
Yn y cyfamser mae Aaron hefyd yn edrych ymlaen at gael ei ffilmio fel rhan o'r ail gyfres o Y Salon sy'n dechrau ar S4C ddiwedd mis Hydref 2017.
"Dwi'n gobeithio byddai'n cael torri ngwallt - er nad oes gynnai lawer o wallt chwaith!" meddai.