Nifer wedi marw mewn tân difrifol yn Llangamarch, Powys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Lluniau o'r awyr o'r tŷ gafodd ei ddifetha gan dân ym Mhowys

Mae nifer o bobl wedi marw mewn tân mewn tŷ ym Mhowys lle llwyddodd tri o blant i ddianc.

Cadarnhaodd y gwasanaethau brys bod plant 13, 12 a 10 oed wedi dianc o'r tân, ddechreuodd ychydig wedi hanner nos yn Llangamarch, ger Llanwrtyd.

Ychwanegodd yr awdurdodau bod sawl person "heb eu lleoli" wedi'r digwyddiad, gan gadarnhau bod rhai wedi marw.

Mae'n debyg bod nifer o blant yn byw yn y tŷ gyda rhiant. Mae'r rhiant wedi'i enwi'n lleol fel David Cuthbertson a'r gred yw ei fod yn ei 60au.

Disgrifiad,

Yr Uwch-Arolygydd Richard Lewis o Heddlu Dyfed-Powys fu'n siarad ddydd Llun

Dywedodd datganiad y gwasanaethau brys: "Fe lwyddodd tri o blant, 13, 12 a 10 oed i ddianc o'r adeilad.

"Ond, rydym yn dal i chwilio am rai oedd yn yr eiddo, ac fe allwn gadarnhau fod yna farwolaethau wedi bod.

"Mae'r plant yn yr ysbyty, ond nid yw eu bywydau mewn perygl."

Methu cadarnhau nifer

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Richard Lewis: "Yn anffodus mae 'na nifer o bobl heb eu lleoli, ond gallwn gadarnhau fod yna farwolaethau.

"O ganlyniad i'r niwed difrifol ar y safle, a chyflwr y tŷ, nid yw'n bosib ar hyn o bryd i adnabod unrhyw un o'r rhai sydd wedi marw, na chwaith cadarnhau rhifau."

Cadarnhaodd bod gwyddonwyr arbenigol a swyddogion yn parhau i asesu'r safle cyn ymchwilio ymhellach.

Cafodd y gwasanaethau eu galw am 00:11, ond dywed yr awdurdodau nad ydyn nhw'n gwybod beth oedd yn gyfrifol am achosi'r tân.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin fod y fflamau wedi "datblygu'n sylweddol" erbyn i'w criwiau nhw gyrraedd y digwyddiad.

'Trasiedi ofnadwy'

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Martin Slevin o Heddlu Dyfed-Powys: "Does neb yn gallu rhoi ateb pendant ynglŷn â phwy oedd yn bresennol neu ddim yn bresennol ac mae'n rhy gynnar i geisio rhoi amcan o bwy oedd yno.

"Mae yna botensial fod yna nifer o farwolaethau, ond gallwn ddim rhoi union ffigwr ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Mae nifer fawr o gerbydau'r gwasanaethau brys yn parhau i fod yn y pentref.

Ar un adeg yn ystod y bore bu tua 20 o aelodau Tîm Achub Mynydd yn cynorthwyo y gwsanethau brys wrth chwilio yn y tir agored o amgylch yr eiddo.

'Sioc ofnadwy'

Dywedodd cynghorydd cymuned lleol, John Hather: "Mae hyn yn sioc ofnadwy i'r gymuned fach hon ac rydym yn meddwl am y teulu."

Dywedodd cynghorydd cymuned lleol Tim Van-Rees: "Mae ein meddyliau gyda'r teulu ar yr adeg ofnadwy yma. Mae hwn yn drasiedi ofnadwy."

Ychwanegodd: "Fe wnes i siarad gyda pherchennog yr eiddo, fe wnaeth un o'r plant ddod i'w dŷ ef yn oriau man y bore.

"Mae'r teulu wedi byw yn y pentref am beth amser ac rydym yn bwriadu galw cyfarfod brys o'r cyngor er mwyn gweld sut y gallwn helpu'r teulu."

Mae AC Brycheiniog a Maesyfed, Kirsty Williams wedi disgrifio'r digwyddiad fel ergyd ofnadwy i gymuned glos.

"Rwy am ddatgan fy nghydymdeimlad dwys i'r sawl sydd wedi eu heffeithio a diolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith."