Achub morlo oedd yn sownd rhwng creigiau ger Port Talbot
- Cyhoeddwyd
![Morlo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D4C1/production/_98656445_a8f87308-379e-4cac-a2a8-8775a8c417cb.jpg)
Cafodd y morlo ei achub nos Fawrth
Mae ymgais i achub morlo oedd yn sownd rhwng creigiau ar draeth Aberafan ger Port Talbot wedi bod yn llwyddiant.
Roedd yr anifail - sydd wedi cael y llysenw Miracle - wedi bod yn sownd yno ers o leiaf dydd Sul.
Dywedodd RSPCA Cymru bod peiriannau trwm wedi cael eu cludo i'r safle i godi'r creigiau.
Mae'r morlo nawr ar ei ffordd i warchodfa yn Taunton, Gwlad yr Hâf.
Dywedodd Clive Morris o swyddfa'r RNLI ym Mhort Talbot ei bod yn "wyrth ein bod wedi cael y sefyllfa i ddiweddglo hapus, diogel".
![Achub](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3129/production/_98658521_0f0c1021-9490-411a-bdcc-185d10efd97f.jpg)
Cafodd peiriannau trwm eu cludo i'r safle i godi'r creigiau