Cyfle arall i gannoedd o ieir Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae heddiw'n ddiwrnod da i gannoedd o gywion ieir yn y gorllewin sy'n cael cartref newydd yn hytrach na chael eu difa.
Mae safle newydd elusen Ymddiriedolaeth Lles Ieir Prydain yn ardal Boncath Sir Benfro wedi yn derbyn cywion ieir o ffermydd a chwmnïau masnachol sydd am eu gwaredu oherwydd eu bod yn 'rhy hen'.
Ddydd Sul, mae fferm Clynfyw yn Abercych yn croesawu'r cyhoedd yno er mwyn iddyn nhw fabwysiadu'r ieir a chymryd rhan yn y cynllun achub.
Mae'r fferm eisoes wedi achub rhai cannoedd rhag cael eu difa a'r bwriad nawr i'w cael y cyhoedd i 'fabwysiadu' cywion ieir a chynnig cartref newydd iddynt.

Un o'r ieir sydd wedi eu hachub
Dywedodd Jim Bowen, un o gyfarwyddwyr fferm Clynfyw sydd hefyd yn gartref i bobl a phlant bregus, mai'r nod yw ailgartrefu tua 400-500 o ieir dros y Sul.
"Mae ieir yn gwneud anifeiliaid anwes da iawn, ac mae yna gannoedd yma ar y funud yn aros mewn sguboriau."
Arbed 600,000
"Maen nhw hefyd yn llesol i'r bobl sydd yma ar y fferm gan fod nifer ag anableddau dysgu gan fod yr anifeiliaid wedi arfer cael eu cyffwrdd ac felly ma' pobl yn cael therapi ac yn gallu dysgu sgiliau wrth ofalu amdanynt."
"De ni hefyd yn gallu cael wyau, felly i ni, ma' sawl elfen bositif i'r prosiect. "
Dywedodd eu bod nawr yn gweithio ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Lles Ieir Prydain ac y byddan nhw'n arbed cannoedd os nad miloedd o ieir.
Dyma bedwerydd safle'r elusen yng Nghymru, gyda'r safleoedd eraill yn Sir Fynwy, Ystradgynlais ac Owrtyn ger Wrecsam .
Dywedodd Gaynor Davies swyddog gydag Ymddiriedolaeth Lles Ieir Prydain "Mewn cyfnod o bedair blynedd rydym wedi i arbed hyd at 600,000 mewn cyfnod o tua 5 i 6 mlynedd.
"Mae cwmnïau masnachol yn tueddu o fod eisiau gwaredu'r ieir ar ôl 18 mis, ond rydym yn gwybod fod rhai o'r ieir yn byw am chwe blynedd ar ôl i'r cwmnïau gael gwared â nhw."