Cymru 21-29 Awstralia
- Cyhoeddwyd
Parhau mae record wael tîm rygbi Cymru yn erbyn Awstralia gyda cholled arall yn Stadiwm Principality.
Mae'n golygu fod Cymru wedi colli'r 13 gêm ddiwethaf yn erbyn y Wallabies.
Hon oedd gêm agoriadol gemau'r hydref 2017 yn Stadiwm Principality, ac mae 15 mlynedd bellach ers i Gymru ennill y gêm gyntaf.
I ychwanegu at rwystredigaeth cefnogwyr y crysau cochion, roedd 'na anfodlonrwydd fod llawer wedi methu â chyrraedd y stadiwm mewn pryd oherwydd mesurau diogelwch llym.
Roedd Warren Gatland wedi addo arbrofi gyda steil fwy ymosodol yng ngemau'r hydref, ond fe fanteisiodd Awstralia ar gamgymeriadau'r Cymry.
Leigh Halfpenny roddodd y pwyntiau cyntaf ar y sgorfwrdd gyda chic gosb, ond fe ddangosodd Awstralia eu grym yn gynnar yn wrth i Tatafu Polota-Nau dirio'r bêl wedi 13 munud, cyn i Bernard Foley ei throsi.
Serch hynny, fe darodd Cymru'n ôl gyda chais gwych gan Steff Davies bedair munud yn ddiweddarach, yn cymryd y bêl oddi wrth Halfpenny wedi i Gareth Davies ddod o hyd i fwlch yn amddiffyn y Wallabies gynharach yn y symudiad.
Ond roedd rhagor i ddod gan Awstralia, gyda Will Genia yn tirio'r bêl wedi 22 munud, cyn i Michael Hooper fynd â'r Wallabies ymhellach ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Y sgôr ar yr hanner - Cymru 13-22 Awstralia.
Un cais gafodd Awstralia yn yr ail hanner, Kurtley Beale yn rhedeg hanner hyd y cae i sgorio.
Ac roedd hynny'n ddigon yn y pendraw, gyda chais Hallam Amos yn y munudau ola'n gysur, ond yn rhy 'chydig, rhy hwyr.
'Gwersi i'w dysgu'
Wrth siarad wedi'r gêm, dywedodd cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones fod yna "elfennau calonogol i chwarae Cymru, ond bod yna wersi i'w dysgu".
Mae Cymru bellach wedi colli 13 gêm o'r bron yn erbyn y Wallabies.
Y tro diwethaf i'r crysau cochion guro Awstralia oedd y fuddugolaeth o 21-18 yn Stadiwm y Mileniwm yn 2008.
Georgia fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru yng ngemau'r Hydref, yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 18 Tachwedd.