Cymru 1-1 Panama

  • Cyhoeddwyd
vokesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Sam Vokes - un o'r chwaraewyr mwyaf profiadol ar y cae, yn methu cic o'r smotyn

Fe ddewisodd Chris Coleman dîm gyfan gwbl newydd i ddechrau yn erbyn Panama nos Fawrth, gan roi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc Cymru ddechrau'r gêm.

Ar ôl gwneud eu hymddangosiadau cyntaf yn erbyn Ffrainc nos Wener, fe gafodd Ethan Ampadu, 17 oed o Chelsea, a David Brooks, 20 o Sheffield United, y cyfle i ddechrau dros Gymru nos Fawrth.

Fe enillodd Ben Woodburn, sy'n 18 oed, ei chweched cap.

Ar y noson lle'r oedd yn cyrraedd record y diweddar Gary Speed am nifer o gapiau dros ei wlad, cyfle Chris Gunter oedd hi i arwain ei gyd-chwaraewyr allan ar y cae.

Roedd y ddau dîm yn chwarae gêm gorfforol, ac fe welodd Ampadu y cerdyn melyn wedi 20 munud o'r chwarae ar ôl tacl wyllt yng nghanol cae.

Fe gafodd Cymru gyfle i fynd ar y blaen ychydig funudau cyn yr egwyl, wedi tacl flêr ar Edwards gan Rash, ond er gwaetha'r ffaith i'r dyfarnwr bwyntio at y smotyn, fe lwyddodd y golwr i arbed ymgais wael gan Sam Vokes.

Tom LawrenceFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Tom Lawrence sgoriodd unig gôl Cymru

Tom Lawrence ddaeth a'r gôl gyntaf, ac unig gôl Cymru, a hynny gyda chwarter awr o'r gêm yn weddill, wedi rhediad i lawr yr asgell chwith, a drwy linell amddiffynnol Panama.

Ond yn anffodus, methodd Cymru a dal eu gafael ar y fantais, gan ildio gôl hwyr yn ystod amser ychwanegol.

Fe ddywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts ar raglen Camp Lawn ar BBC Radio Cymru, ei fod yn "siomedig" fod Cymru wedi cael gêm gyfartal, ond ei fod yn teimlo fod y gêm wedi bod yn "gyfle gwych" i'r chwaraewyr ifanc, ac ym marn Iwan, fe gafodd David Brooks "gêm wych" - yn wir, Brooks gafodd ei enwi'n seren y gêm.

Hefyd nos Fawrth, roedd Gweriniaeth Iwerddon - a orffennodd yn ail safle ac uwchben Cymru yng Ngrŵp D yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, yn chwarae eu hail gêm yn erbyn Denmarc, yn y rownd ail-gyfle'r gystadleuaeth.

Ond yn anffodus i'r Weriniaeth, fe gafo nhw eu maeddu gan Ddenmarc, gyda'r ymwelwyr yn ennill o bum gôl i un yn Nulyn. Felly ni fydd Iwerdon yn teithio i Rwsia ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe fydd trafodaethau ynglŷn â chytundeb Chris Coleman gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau dros yr wythnosau nesaf.

colemanFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Ai dyma gêm olaf Coleman wrth y llyw?