Meddygfa Abersoch ym Mhen Llŷn i gau ddiwedd y mis

  • Cyhoeddwyd
meddygfa rhydbach

Mae 'na bryder yn Abersoch ar ôl i feddygon gadarnhau y bydd y feddygfa yno yn cau ar 1 Rhagfyr.

Yn ôl Partneriaeth Meddygfa Rhydbach ym Motwnnog, sydd yn cynnal y gwasanaeth yn Abersoch, bydd canoli'r holl arbenigedd dan yr un to ym Motwnnog yn well i gleifion.

Ond mae 'na wrthwynebiad mawr yn Abersoch a'r ardal i'r bwriad i gau, gyda 1,000 o bobl yn arwyddo deiseb am ei chadw ar agor.

Yn ôl y gwrthwynebwyr bydd hi'n anodd i bobl heb geir gyrraedd Botwnnog ar drafnidiaeth gyhoeddus.

'Bechod garw iawn'

Tridiau'r wythnos y mae'r feddygfa ar agor yn Abersoch, ond mae cadarnhad bellach wedi dod o'r hyn yr oedd cleifion yn ei ofni fyddai'n digwydd.

Un sy'n poeni'n fawr am y sefyllfa ydi Anna Jones sy'n byw yn Abersoch.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae'n ergyd mawr i'r pentref dwi'n meddwl... gymaint o ddatblygiadau yma ac eto mae'r feddygfa yn cau. Ond poeni ydw i am bobl sydd ddim yn gyrru, [mae'n] dipyn o drec mynd i Fotwnnog... mae'n bechod garw iawn."

Wrth siarad efo Cymru Fyw dywedodd y cynghorydd Dewi Wyn Roberts, sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd: "Mae miloedd o bobl yn dod yma yn ystod yr haf ac mae gwybod bod meddygfa ar gael yn beth mawr i'r gymdeithas. Mae o'n wasanaeth pwysig i'r trigolion a'r ymwelwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn fodlon gyda'r ymateb, a bydd yn codi'r mater gyda Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

Doedd neb o feddygfa Rhydbach ym Motwnnog ar gael i wneud cyfweliad ar y mater, ond dywedwyd bod y partneriaid yn gweld cau meddygfa Abersoch fel cam angenrheidiol ac yn eu llythyr at gleifion maen nhw'n dweud: "Rydym yn cydnabod na fydd pawb yn cyd-fynd â hyn ac y bydd yn achosi ychydig o anhwylustod i rai o'n cleifion.

"Rydym yn dymuno unwaith eto sicrhau ein holl gleifion y bydd ein darpariaeth gwasanaeth yn parhau heb ei effeithio o ganlyniad i gau Meddygfa Cangen Abersoch.

"Mae hyn yn cynnwys ymweliadau cartref ac unrhyw wasanaeth rydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd i gleifion sy'n gaeth i'r tŷ. Ni fydd angen i chi gofrestru â Meddyg Teulu arall.

"Fel y crybwyllwyd yn ein llythyrau blaenorol i gleifion, bydd cau Meddygfa Cangen Abersoch yn galluogi'r tîm cyfan i weithio mewn amgylchedd cyfunol a diogel gyda'r holl fecanweithiau cefnogi, adnoddau ac offer sydd ei angen dan safonau manwl meddygaeth gyffredinol heddiw."

Codi'r mater mewn cyfarfod

Mewn datganiad, dywedodd Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cyntaf gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r panel Gofal Cyntaf wedi cymeradwyo cais a gyflwynwyd gan Feddygfa Rhydbach i gau cangen Abersoch, sydd ar hyn o bryd yn agor am dridiau'r wythnos.

"Wrth wneud ein penderfyniad fe wnaethon ni ystyried y trafferthion sy'n wynebu'r feddygfa ar hyn o bryd, barn y cleifion a hefyd yn angen i sicrhau bod anghenion poblogaeth gyfan y feddygfa yn cael eu cwrdd."

Ond dydy'r cynghorydd Dewi Wyn Roberts ddim yn derbyn yr esboniad y feddygfa, ac fe fydd yn codi'r mater yng nghyfarfod Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru fore Mawrth.