Cefnogaeth AS i grŵp pensiynau merched ym Meirionnydd

  • Cyhoeddwyd
Grwp WASPI
Disgrifiad o’r llun,

Mae grwpiau WASPI wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru

Mae un o ASau Plaid Cymru a merched o'i hetholaeth wedi lansio grŵp i gefnogi merched sydd wedi cael eu heffeithio gan newidiadau i'w pensiynau.

Fe ddaw'r cynllun i sefydlu grŵp WASPI yn ardal Dwyfor Meirionnydd wedi cyfarfod rhwng Liz Saville Roberts AS a chynrychiolwyr yr elusen yn Nolgellau.

Fe fydd y grŵp newydd yn trefnu cyfres o weithdai i helpu merched sydd wedi cael eu heffeithio i ddrafftio llythyrau at yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dywedodd Ms Saville Roberts AS bod tua 4,000 o ferched yn ei hetholaeth wedi cael eu heffeithio gan y cynnydd yn oedran derbyn pensiwn gwladol, gyda'r mwyafrif helaeth yn derbyn dim rhybudd o gwbl o'r newidiadau.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi rhoi £1bn tuag at ddelio ag effaith y newidiadau.

Stori Iona Price

Un sydd wedi cael ei heffeithio gan newidiadau i bensiynau ydy Iona Price o Flaenau Ffestiniog. Mae'n 63 oed ac yn gyn-reolwr prosiectau, ond ni fydd derbyn pensiwn am ddwy flynedd arall.

Fe ddioddefodd Ms Price broblemau iechyd pan yn 58 oed, ac roedd yn rhaid iddi adael ei gwaith am gyfnod o ddwy flynedd.

"Pan ddaeth hi'n amser i mi ddychwelyd i fyd gwaith, roeddwn i'n 60 oed, ac wir i chi mae wedi bod yn amhosib i mi allu darganfod gwaith... er bod gen i CV cryf iawn, dydy'r math o waith sy'n addas i rywun o fy oed i ddim ar gael yn yr ardal yma.

"Mae Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn slei iawn yn sut maen nhw wedi cyflwyno newidiadau i bensiynau pobl... petawn i wedi cael fy ngeni ychydig fisoedd ynghynt, mi fyswn i'n cael hawlio pensiwn gwladol erbyn hyn.

"Fedrai'm dweud gymaint o straen dwi wedi teimlo yn sgil hyn, ac erbyn hyn, dwi'n gorfod ystyried gwerthu fy nhŷ rŵan, jyst er mwyn gallu fforddio pethau bob dydd fel cadw car ar y lôn.

"Dwi'n gobeithio bydd y grŵp yn cefnogi merched yn yr un sefyllfa â fi, ac yn help i drafod y peth. Bydd hefyd yn gyfle pawb i gwyno efo'n gilydd am gamweinyddiaeth gan y DWP ar y llanast maen nhw wedi ei wneud o'r holl beth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae menywod o Gymru wedi bod yn protestio am bensiynau yn y gorffennol

Beth yw WASPI?

Ymgyrch yw WASPI - neu Women Against State Pension Inequality - sy'n galw am iawndal i ferched gafodd eu heffeithio gan newidiadau i bensiynau yn 1995 a 2011.

Mae Deddf Pensiynau 2011 yn golygu mai 65 yw'r oed fydd merched yn cael y pensiwn gwladol o 2018 ymlaen - gyda'r oedran i gynyddu i 66 i ferched a dynion erbyn Hydref 2020.

Roedd yn golygu y byddai 300,000 o ferched ar draws y DU oedd yn nesau at oed pensiwn yn gorfod disgwyl 18 mis arall.

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod dim digon o ymwybyddiaeth o'r newidiadau ar y pryd a bod dim amser i ferched addasu i'r newidiadau. Mae WASPI yn galw am iawndal i'r rhai sydd wedi cyrraedd oed pensiwn, a thaliadau ychwanegol i'r rheiny sy'n dal i ddisgwyl i gyrraedd yr oed hwnnw.

Ond yn ôl Llywodraeth y DU, ni fydd 'na newidiadau pellach i'r polisi.

Maen nhw'n dweud eu bod eisoes wedi rhoi £1bn tuag at ddelio ag effaith y newidiadau, a sicrhau bod dyddiad pensiwn neb yn newid o fwy nag 18 mis.

"Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau lle gofynnais i ferched o bob rhan o Ddwyfor Meirionnydd rannu eu profiadau a'u gwahodd i helpu sefydlu grŵp WASPI lleol," meddai Ms Saville Roberts.

"O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, rydym bellach wedi sefydlu grŵp WASPI Dwyfor Meirionnydd sy'n anelu at ddod â merched o bob rhan o'r etholaeth ynghyd i rannu syniadau a helpu i symud yr ymgyrch ymlaen yn lleol."

Ychwanegodd Ms Roberts: "Rydym eisiau'r canlyniad gorau i bob merch sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau pensiwn annheg hyn, mae llawer ohonynt wedi gweithio'n galed ers degawdau heb gymryd ceiniog allan o'r system."

Bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal i ferched sydd wedi eu heffeithiol, gyda'r cyntaf yn Llyfrgell Tywyn ddydd Mawrth ac yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog ddydd Gwener.

Mae gofyn i bawb sydd â diddordeb ddod â'u Rhif Yswiriant Gwladol gyda nhw ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol.