Ymgyrchwyr yn dweud fod newidiadau pensiwn "yn annheg"
- Cyhoeddwyd
Cafodd protest ei chynnal ym mae Caerdydd gan ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu'r cynnydd yn yr oedran y gall menywod dderbyn eu pensiwn gwladol.
Dywed mudiad WASPI, sef menywod yn erbyn cynyddu oed pensiwn statudol, y bydd y newidiadau mewn polisi yn effeithio yn bennaf ar fenywod gafodd eu geni yn y 1950au.
Ymhlith y protestwyr y tu allan i adeiladau'r Senedd roedd yr aelodau seneddol Stephen Kinnock (Llafur, Aberafan) a Nia Griffith (Llafur, Llanelli).
Maen nhw o'r farn, er bod angen newid yr oed pensiwn i fenywod, fod y llywodraeth yn ceisio ei newid yn rhy gyflym.
Mae hyn, meddant yn rhoi nifer o fenywod mewn sefyllfa "annheg a bregus."
"Mae pawb yn deall fod angen newid yr oedran ymddeol i fod yn deg i fenywod a dynion, ond mae'r llywodraeth yn ei wneud yn rhy gyflym ac mae llawer iawn yn colli mas, a doedd dim digon o amser ganddynt i gynllunio at y system newydd," meddai Ms Griffith.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru fod cyfartaledd mewn oed pensiwn gwladol, rhwng dynion a menywod, wedi ei gyhoeddi ugain mlynedd yn ôl. Ychwanegodd fod disgwyl i fenywod sy'n ymddeol heddiw dderbyn 10% yn fwy o bensiwn dros eu hoes na dynion, am y rheswm syml eu bod nhw ar gyfartaledd yn byw yn hirach.