Llifogydd yn effeithio ar ffyrdd yn dilyn glaw trwm
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm wedi effeithio ar nifer o ardaloedd yn y gogledd nos Fercher gyda'r heddlu'n gofyn i bobl beidio â theithio oni bai bo raid, wrth iddyn nhw ymateb i "lifogydd difrifol" ar Ynys Môn a Gwynedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod ardal Caernarfon a'r Felinheli "yn dioddef llifogydd difrifol" gyda'r llu yn chwilio am staff ychwanegol i gynorthwyo yn yr ardaloedd hynny.
Mae ffordd yr A5 wedi cau rhwng Llangefni a Gaerwen ar Ynys Môn, gyda Pont Britannia hefyd ar gau i'r ddau gyfeiriad.
Ym Mhen Llŷn, mae Ysgol Pont y Gof, Botwnnog wedi cadarnhau ar eu cyfrif Twitter y bydd yr ysgol ynghau ddydd Iau oherwydd y llifogydd wrth i'r glaw achosi trafferthion ar y ffyrdd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl mewn 12 ardal i fod yn wyliadwrus o lifogydd, gan gynnwys: Llanymddyfri, Cleddau, Abererch, Dolgellau, ardaloedd dalgylch Ynys Môn, dalgylch Conwy, ardal afon Mawddach, ardal afon Dysyni, gogledd Gwynedd, ardal afon Glaslyn ac afon Dwyryd.
Mae dŵr ar wyneb y ffordd hefyd yn effeithio yr A493 rhwng Dolgellau, Tywyn a Bryncrug ond mae'r ffordd yn parhau ar agor.
"Mae adroddiadau nad oes modd defnyddio'r ffordd yn ardal Maenclochog," meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro.
Mae'r rhybuddion tywydd hefyd yn cynnwys ardaloedd o amgylch afonydd Conwy, Glaslyn a Dwyryd, Dyfi, Mawddach a Dysynni.
Mae Trenau Arriva Cymru hefyd wedi cadarnhau bydd gwasanaeth bysiau yn rhedeg rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Amharu ar deithio
Mae rhybuddion am wyntoedd cryfion, gyda disgwyl i wyntoedd hyrddio hyd at 70mya ar hyd yr arfordir, a'r rhybudd yn parhau mewn grym dros nos nes 07:00 fore Iau.
Mae rhybudd y bydd hyd at 50mm o law "trwm a pharhaus" yn disgyn mewn rhannau o'r gogledd-orllewin.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd "y bydd glaw trwm yn cyd-fynd â gwyntoedd cryfion mewn rhai mannau".
Mae cwmni Irish Ferries wedi canslo rhai gwasanaethau o Gaergybi a Doc Penfro, gan annog teithwyr i gysylltu â nhw cyn teithio i'r porthladd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017