'Olew palmwydd' wedi'i olchi i'r lan yn Ninbych-y-Pysgod
- Cyhoeddwyd

Casgen ar Draeth y Gogledd oedd o bosib yn cynnwys olew palmwydd
Mae'r awdurdodau yn Sir Benfro yn edrych i'r posibilrwydd bod olew palmwydd wedi cael ei olchi i'r lan ben bore Mercher yn Ninbych-y-Pysgod.
Cafodd swyddogion Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a Chyngor Sir Penfro eu danfon i ymchwilio i'r sefyllfa yn Nhraeth y De.
Mae 'na adroddiadau bod yr un peth wedi digwydd yn Nhraeth y Castell.
Os taw olew palmwydd ydy'r sylwedd mae 'na rybudd y gallai rhagor ohono gael ei olchi i'r lan gyda'r llanw yn y dyddiau nesaf.
Mae 'na rybudd hefyd i berchnogion cŵn gymryd gofal wrth fynd â nhw am dro ar y traethau, gan fod olew palmwydd yn niweidiol i gŵn o'i lyncu.