Cyllideb: £1.2bn ychwanegol i Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2bn yn ychwanegol.
Wrth draddodi'r Gyllideb gyntaf ers yr Etholiad Cyffredinol, dywedodd Phillip Hammond mai edrych ymlaen ac nid yn ôl mae Llywodraeth y DU, a'u bod yn barod i gofleidio'r dyfodol ac wynebu "unrhyw bosibilrwydd" yn sgil proses Brexit.
Mae'r £1.2bn ychwanegol i Gymru wedi ei glustnodi ar gyfer y pedair blynedd nesaf, gan gynnwys eleni - sef tua £300m y flwyddyn.
Wrth gyfeirio hefyd at Gymru, dywedodd Mr Hammond y bydd trafodaethau'n dechrau ar gytundebau twf i'r gogledd a'r canolbarth, a chadarnhau y bydd y tollau ar bontydd Hafren yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Doedd yna ddim cyfeiriad at gynllun Morlyn Bae Abertawe.
Dileu'r dreth stamp
Cyhoeddodd y Canghellor y bydd hefyd yn dileu'r dreth stamp yn gyfan gwbl ar dai werth hyd at £300,000.
Bydd hynny'n dod i rym yn syth, a hynny cyn i'r dreth stamp yn cael ei datganoli yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu beth sy'n digwydd i'r dreth wedi hynny, tan hynny bydd prynwyr tro cyntaf yn gallu prynu cartref werth hyd at £300,000 heb orfod talu'r dreth o gwbl.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford y gallai'r dreth stamp yng Nghymru newid o ganlyniad i'r cyhoeddiad yn y Gyllideb ddydd Mercher, ac y gallai "elfennau o'r dreth newydd gael ei newid" gan nad oedd y rheoliadau wedi eu cymeradwyo gan y Cynulliad.
"Byddwn yn edrych ar y dreth stamp. Rydym wedi gadael lle i gyflwyno newidiadau os bydd angen i ni wneud hynny," meddai.
Bydd £1.5bn o gymorth hefyd yn cael ei neilltuo i bobl sy'n derbyn credyd cynhwysol - mae bron 25,000 yng Nghymru yn derbyn taliadau ar hyn o bryd.
Rhai pwyntiau eraill:
£3bn yn ychwanegol ar gyfer y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd;
Treth ar geir disel sy'n llygru fwyaf i godi o Ebrill 2018;
Cyflog Byw i godi 4.4% o £7.50 yr awr i 7.83 - cynnydd o £600 i weithwyr llawn amser;
Treth ar dybaco i godi 2% uwchben chwyddiant;
Dim gostyngiad i drothwy TAW o £85,000.
Rheilffyrdd
Dywedodd Mr Hammond y bydd y llywodraeth yn buddsoddi ar wella'r isadeiledd er mwyn darparu gwasanaeth uniongyrchol o Ddoc Penfro i Lundain drwy Gaerfyrddin ar drenau Intercity Express modern.
"Yn ychwanegol i hynny, mae'r Adran Drafnidiaeth yn parhau i ddatblygu cynigion am nifer o gynlluniau rheilffordd posib yng Nghymru," meddai.
"Mae hyn yn cynnwys gwella gorsafoedd Canol Caerdydd ac Abertawe, gwella llinellau lliniaru cyffordd Caerdydd i dwnnel Hafren, gwella'r amser teithio rhwng: Abertawe a Chaerdydd; De Cymru, Bryste a Llundain: ac ar hyd prif lein Gogledd Cymru.
"Bydd y llywodraeth hefyd yn ystyried cynigion i wella amseroedd teithio ar lein Wrecsam - Bidston, a darparu'r nawdd angenrheidiol i ddatblygu'r cynllun busnes."
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn fod y Gyllideb yn "record o fethiant", gan rybuddio bod rhagor o fethiannau i ddod.
Dywedodd bod dyledion personol pobl yn mynd yn waeth, a galwodd ar y Canghellor i godi'r cyflog byw i £10 yr awr.
Dywedodd Mr Drakeford na fyddai'r £1.2bn o gyllid ychwanegol yn mynd yn bell iawn tuag at "leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen".
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cysgodol Cymru, Christina Rees, y byddai'n rhaid ad-dalu llawer o'r £1.2bn o gyllid ychwanegol yn ôl i'r Trysorlys.
"Y gwir yw bod y budd i gyllideb Cymru yn llawer llai," meddai.
Roedd hefyd yn feirniadol o fethiant y Canghellor i godi'r cap ar gyflogau sector gyhoeddus a newid system y Credyd Cynhwysol, a'r diffyg ymrwymiad i brosiectau fel y morlyn.
'Gwneud gwahaniaeth'
Wrth ymateb i'r arian ychwanegol i Gymru, dywedodd Plaid Cymru mai "ail-dwymo hen gyhoeddiadau i Gymru" oedd hyn, ac "unwaith yn rhagor mae disgwyl i ni fod yn ddiolchgar am friwsion San Steffan".
Dywedodd llefarydd: "Mae'r Torïaid yn honni eu bod nhw'n adeiladu economi sy'n addas i'r dyfodol, ond y gwir ydy eu bod nhw'n sownd yn y gorffennol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran UKIP yng Nghymru eu bod yn siomedig â rhai agweddau o'r Gyllideb, gan gynnwys diffyg cyhoeddiad ar Forlyn Bae Abertawe.
Ond cafwyd croeso i'r bargeinion twf ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru, gyda galwad am fwy o "fanylion".
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fodd bynnag ei bod nawr yn bryd i Lywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth gyda'r cyllid ychwanegol.
"Mae'n rhaid iddyn nhw nawr ddefnyddio'r arfau sydd ganddyn nhw i wella bywydau pobl Cymru drwy adeiladu'r tai sydd eu hangen ar y wlad, adeiladu'r rhwydwaith ffyrdd y mae Cymru'n ei haeddu, a gwella safonau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus."
Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, Nick Ramsay fod y cyllid ychwanegol nawr yn "golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru esgus" i "dangyllido" y gwasanaeth iechyd mwyach.
"Mae'n amlwg mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sydd â chynllun i ddatblygu a thyfu economi Cymru, buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cadw trethi'n isel, a chefnogi teuluoedd a busnesau ar draws y DU."