Cyfres yr Hydref: Cymru 18-33 Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Cymru v Seland NewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Methodd Cymru a sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Seland Newydd ers 1953, wrth i'r Crysau Duon ennill yn gyfforddus yn Stadiwm y Principality.

Fe ddechreuodd Cymru'r gêm yn dda gan orfodi Seland Newydd i wneud camgymeriad yn y pum munud agoriadol a sicrhau sgrym 5 metr o'r llinell gais.

Roedd Cymru'n symud y bêl yn dda a daeth tri phwynt cyntaf y gêm yn haeddiannol i Gymru, Leigh Halfpenny gyda chic gosb gywir wedi naw munud.

Yn gwbl annisgwyl fe sgoriodd Seland Newydd gais gyntaf y gêm wedi 14 munud.

Steff Evans yn methu taclo ganol cae a'r Crysau Duon yn ymosod yn gyflyn gyda Waisake Naholo yn tirio yn y gornel gyda'r trosiad hefyd yn gywir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Waisake Naholo sgoriodd cais gyntaf i gêm i'r Crysau Duaon

Daeth ergyd arall i Gymru gyda Jake Ball yn gadael y cae gydag anaf i'w ysgwydd a chyn hynny fe aeth Rhys Webb oddi ar y cae i gael asesiad pen gan y tîm meddygol.

Wedi ugain munud daeth Cymru yn agos i sgorio cais gyda Taulupe Faletau yn colli'r bêl troedfedd o'r llinell gais Seland Newydd a cholli'r meddiant.

Methodd Leigh Halfpenny gic gosb o bell wedi 24 munud.

Daeth hanner cyfle i Gymru pum munud yn ddiweddarach wrth i Josh Lavidi gyda rhediad penderfynol heibio i ddau chwaraewr Seland Newydd ond Cymru yn methu a gorffen y symudiad gyda chais.

Ail gais Noholo

Gyda'i drydedd cynnig am y pyst o'r gêm fe lwyddodd Halfpenny i gau'r bwlch gyda chic gywir wedi 32 munud i ddod a'r sgôr yn Cymru 6 - 7 Seland Newydd.

Dwy funud cyn yr egwyl fe lwyddodd Naholo sgorio ei ail gais o'r gêm wedi chwarae cyflym gan y Crysau Duon wedi pwysau cynyddol ar amddiffyn Cymru.

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf sgoriodd Scott Williams gais gwych i Gymru. Pas wych gan Hallam Amos cyn rhyddhau i Biggar wnaeth basio'n wych i Williams dirio yn y gornel.

Methodd Halfpenny gyda'i gic a daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r sgor yn Cymru 11 - 12 Seland Newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Scott Williams gais bwysig i Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf

Fe ddechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i'r hanner cyntaf, gyda Chymru'n ymosod yn gyflym ond unwaith eto roedd amddiffyn Seland Newydd yn sefyll yn gadarn.

Fe drodd llif y gêm wrth i'r ail hanner fynd yn ei blaen gyda Seland Newydd yn pwyso am drydedd cais y gêm ac wedi 57 munud sgoriodd Anton Liernert - Brown ar ôl i'r bêl dasgu allan o dacl a disgyn yn garedig i ddwylo Liniert - Brown.

Llwyddodd y Crysau Duon gyda'r trosiad i wneud y sgor yn Cymru 11 - 19 Seland Newydd ar yr awr.

Pum munud yn ddiweddarach fe wnaeth Cymru dalu'r pris wedi'i Rieco Ioane fanteisio ar bas lac yng nghanol y cae i sgorio cais hawdd i'r Crysau Duon. Roedd Barrett yn gywir unwaith eto gyda'r trosiad i ymestyn mantais Seland Newydd i 15 pwynt.

Llygedyn o obaith

Fe wnaeth Cymru ymateb yn bositif gan roi amddiffyn y Crysau Duon dan bwysau. Roedd y pwysau'n ormod wrth i Sam Whitelock droseddu a derbyn cerdyn melyn gan y dyfarnwr.

Daeth llygedyn o obaith i Gymru. Yn syth o sgrym yn dilyn ymadawiad Whitelock i'r gell gosb fe groesodd Gareth Davies am gais i Gymru.

Llwyddodd Halfpenny gyda'r trosiad y tro hwn gyda'r bwlch nawr yn 8 pwynt rhwng y ddau dîm.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Davies sgoriodd ail gais Cymru wedi 70 munud

Er i Gymru daflu popeth i geisio sgorio cais arall, gyda saith munud o'r gêm yn weddill roedd gobeithio Cymru ar ben wrth i Rieko Ioane ddangos ei gyflymder a'i sgiliau i sgorio ei ail gais o'r gêm.

Gyda Barrett unwaith eto'n cicio'n gywir fe orffennodd y gêm gyda Seland Newydd yn dathlu'r fuddugoliaeth.

Y sgor terfynol, Cymru 18 - 33 Seland Newydd.