Perthynas y Tywysog Philip, Dug Caeredin, â Chymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Dug Caeredin ymweld â Chymru sawl gwaith - gan amlaf gyda'r Frenhines wrth gyflawni dyletswyddau brenhinol, ond yn achlysurol ar ei ben ei hun.
Ychydig cyn ei briodas â'r Dywysoges Elizabeth yn Abaty Westminster ar 20 Tachwedd 1947, cafodd y Tywysog Philip fwy nag un teitl gan y Brenin George VI.
Dug Caeredin yw'r teitl mwyaf cyfarwydd ond cafodd hefyd y teitl Iarll Meirionnydd.
Mewn seremoni ym Mangor yn 1949, cafodd y Tywysog Philip ei urddo'n ganghellor Prifysgol Cymru, a geiriau olaf ei anerchiad yn Neuadd Prichard-Jones oedd "Cymru am byth".
Yn ystod y seremoni, cyflwynodd raddau er anrhydedd i'w wraig, y Dywysoges Elizabeth, y prif weinidog ar y pryd, Clement Attlee a'r actor Emlyn Williams.
Pwysigrwydd y Gymraeg a'i diwylliant
Yn y 70au cyflwynodd y Dug araith arall ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhinwedd ei swydd fel canghellor, ac fe anogodd ei fab, y Tywysog Charles, i dreulio cyfnod yn y dref i ddysgu Cymraeg cyn yr arwisgo.
Dywedodd y Dug mai ei rôl fel Canghellor Prifysgol Cymru rhwng 1949 a 1976 wnaeth iddo sylweddoli pwysigrwydd y Gymraeg a'i diwylliant i bobl Cymru.
Mae'n debyg mai Pwllheli oedd un o'r llefydd cyntaf i'r Dug feithrin perthynas ag ef, a hynny yn ystod ei ddyddiau yn hyfforddi ar HMS Glendower yn y 40au.
Ers y dyddiau cynnar bu'n ymweld â Chymru gyda'r Frenhines i ddigwyddiadau swyddogol fel agor sesiynau'r Cynulliad Cenedlaethol ac agor Pont Hafren yn 1966.
Roedd gan y Dug ddiddordeb brwd yn y ganolfan Outward Bound gyntaf yn Aberdyfi, a sefydlwyd yn 1941, a bu'n noddwr yr ymddiriedolaeth hyd ei oes.
Mae'n debyg mai ei waith yno ysbrydolodd Wobr Dug Caeredin, a ehangodd i 140 o wledydd ar draws y byd.
Roedd egwyddorion Gwobr Dug Caeredin yn seiliedig ar egwyddorion ac athroniaeth y ganolfan yn Aberdyfi, a'r nod oedd datblygu gwytnwch morwyr ifanc i wasanaethu'n y llynges.
Arloeswr y ganolfan oedd mentor y Dug, Kurt Hahn, a sefydlodd Ysgol Gordonstoun yn Yr Alban, lle derbyniodd y Tywysog Philip, a'r Tywysog Charles wedi hynny, eu haddysg.
Dychwelodd y Dug i Aberdyfi i nodi 50 mlwyddiant Outward Bound yn 1991.
Y Dug yng Nghaernarfon
Yn fuan ar ôl y coroni, aeth y Frenhines a'r Dug ar daith o amgylch Cymru, gan ymweld â'r Rhyl, Wrecsam, Llangollen a Phontypridd yn 1953.
Ar 1 Rhagfyr 1954, chwe blynedd ar ôl i'r Frenhines dderbyn yr anrhydedd, derbyniodd y Dug ryddfraint Caerdydd.
Roedd 1958 yn flwyddyn fawr i Gymru wrth iddi groesawu Gemau'r Gymanwlad i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed - y wlad leiaf erioed i gynnal y gemau.
Ar 18 Gorffennaf cafodd y gemau eu hagor yn swyddogol gan Ddug Caeredin, llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad.
Ym mis Awst 1963, un o ddyletswyddau swyddogol y Frenhines a'r Dug ar eu taith i ogledd Cymru oedd datgan Caernarfon yn fwrdeistref frenhinol.
Yn 1969 daeth y Dug a'r Frenhines yn ôl i Gaernarfon ar gyfer seremoni arwisgo'r Tywysog Charles.
Ar un o ddyddiau tywyllaf hanes Cymru, cyrhaeddodd Dug Caeredin Aberfan o fewn oriau i'r trychineb.
Yn gwmni iddo roedd Arglwydd Eryri a'r prif weinidog ar y pryd, Harold Wilson.
Cerddodd y Dug drwy Aberfan yn cyfarfod trigolion a gwelodd y gwaith achub a chlirio.
Dychwelodd i Balas Buckingham i ddweud wrth y Frenhines y byddai'n fwy priodol iddi aros rhywfaint cyn ymweld.
Wythnos yn ddiweddarach, daeth yn ôl i Aberfan gyda'r Frenhines - un o ymweliadau mwyaf dirdynnol y Frenhines drwy gydol ei theyrnasiad.
Daeth y ddau yn ôl i Aberfan dair gwaith wedi hynny.
Hiwmor a siarad plaen
Roedd Dug Caeredin yn dueddol o siarad ei feddwl - ac yn aml yn defnyddio hiwmor - ond nid oedd hynny'n gweithio bob tro, a daeth yn enwog am ei "siarad plaen".
Digwyddodd un o'r enghreifftiau cynharaf o'i hiwmor yng nghanolfan Plas y Brenin yng Nghapel Curig ym mis Mehefin 1956.
Wrth gael ei gyflwyno i nifer o gyn-filwyr y Lleng Brydeinig, gofynnodd y Dug: "Ai Jones yw enw pawb sydd yma?"
A dyna ddechrau cyfres o faux pas fu'n llenwi tudalennau'r papurau newydd ar hyd ei fywyd.
Wrth fynychu agoriad pumed sesiwn y Cynulliad gyda'r Frenhines, Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn 2016, cafodd y Dug ei gyflwyno i grŵp o blant ysgol.
Gofynnodd y Dug os oedden nhw'n gallu siarad Cymraeg.
O glywed eu bod nhw, dywedodd: "You must have really good brains to speak Welsh."
'Dyn craff a charedig'
Dros y blynyddoedd bu'r Dug yn noddwr nifer o glybiau chwaraeon yng Nghymru, yn eu plith y Clwb Hwylio Brenhinol yng Nghaernarfon, Criced Cymru a Chynghrair Bêl-droed Cymru.
Ag yntau hefyd yn noddwr Cymdeithas Genedlaethol y Meysydd Chwarae, dywedodd y cyn-gyfarwyddwr, Elsa Davies: "Roedd Dug Caeredin yn weithgar dros ben.
"Roedd e'n ddyn craff ac yn ddyn caredig. Dyn oedd mo'yn gwneud yn dda a gwneud pethau da yn dda."
Sefydliad arall y bu'r Dug yn gysylltiedig â hi oedd y Cardiff and County Club.
Dywedodd Ceri Preece o'r clwb: "Mae e wedi rhoi statws arbennig i'r clwb. Mae bod yn noddwr yma ar ôl yr holl ddegawdau yn dipyn o beth.
"Bydd y bobl gwrddodd ag e am yr unig dro fan hyn ar 16 Mawrth 2006 yn cofio'r diwrnod hwnnw - diwrnod hapus iawn."