Dyfrig Davies yw Cadeirydd newydd Urdd Gobaith Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi ethol eu cadeirydd newydd.
Fe fydd Dyfrig Davies o Landeilo yn dilyn cyfnod Tudur Dylan Jones wrth y llyw.
Mae Mr Davies wedi bod ynglwm â'r Urdd ers blynyddoedd, gan ddechreuodd cystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc iawn.
Mae hefyd yn gyn-gadeirydd ar Fwrdd Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd ei fod yn "ystyried hi'n fraint ond hefyd yn gyfrifoldeb mawr" i ymgymryd â'r swydd.
"Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda Sian Lewis ein Prif Weithredwr newydd - mae'n gyfnod cyffrous i'r mudiad.
"Yn bennaf oll dwi am weld mwy a mwy o gyfleoedd i'n haelodau.
"Bydd dathlu canmlwyddiant yr Urdd yn 2022 yn garreg filltir pwysig ynghyd â sicrhau partneriaethau fydd yn gallu ymestyn ffiniau ein gwaith wrth i ni chwarae rhan bwysig yn nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg."
Yn wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn yn nyffryn Teifi, mae Mr Davies bellach yn byw gyda'i deulu yn ardal Llandeilo.
Bu'n gweithio fel athro mewn ysgol uwchradd cyn mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant cyfryngau creadigol torfol.
Mae Mr Davies yn uwch gynhyrchydd a rhan berchennog o gwmni Telesgop yn Abertawe sy'n cynhyrchu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, Channel 4, a BBC Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2015