Disgyblion o Aberystwyth yn casglu bagiau i ffoaduriaid
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp o bobl ifanc o Aberystwyth wedi casglu dros 60 bag cefn yn llawn dillad a nwyddau i gael eu rhoi i ffoaduriaid yn Ffrainc, ar ôl clywed am eu hanes gan athrawes.
Cafodd disgyblion chweched dosbarth Ysgol Penglais eu cymell i drefnu ymgyrch i lenwi'r bagiau cefn ar ôl clywed am daith un o'u hathrawon i goedwigoedd o amgylch Calais yn Ffrainc gydag elusen sy'n cynorthwyo ffoaduriaid.
Yn gynharach eleni fe aeth Debbie Mossman, sy'n diwtor yn yr ysgol, i Calais i wirfoddoli gyda The Worldwide Tribe, ar ôl clywed am waith ei merch, Polly, gyda nhw.
Ar ôl dychwelyd adre i Geredigion, fe benderfynodd hi rannu straeon y bobl wnaeth hi gwrdd â nhw gyda'r disgyblion chweched dosbarth mewn gwasanaeth arbennig.

Bydd 60 o'r bagiu yma'n cael eu dosbarthu i ffoaduriaid sydd yn byw mewn coedwigoedd o amgylch Calais fore Gwener.
Wedi cael eu hysgogi gan yr hyn glywon nhw yn y gwasanaeth, fe drefnodd y criw bod pob dosbarth yn yr ysgol yn cael bag yr un i'r llenwi.
Erbyn diwedd yr ymgyrch roedden nhw wedi casglu digon o nwyddau a dillad i lenwi dros 60 bag.
Nawr mae'r bagiau wedi cyrraedd Ffrainc yn barod i gael eu trosglwyddo i'r ffoaduriaid.
'Empathi a chariad'
Dywedodd yr elusen: "Ar ôl clywed gan Debbie am hanes rhai o'r bobl wnaeth hi gwrdd â nhw, roedd y plant wedi dweud eu bod nhw eisiau helpu.
"Dywedodd Debbie y byddai hi'n prynu'r bagiau, ond y byddai'n rhaid i'r plant wedyn drefnu eu llenwi."

Mae label wedi cael eu rhoi ar bob un o'r bagiau cefn yn nodi tarddiad y rhodd hwn i'r ffoadur
"Fe wnaeth y grŵp o ddisgyblion y chweched gynnal gwasanaeth ar gyfer gweddill yr ysgol, cyn rhoi bag i bob dosbarth a'u hannog nhw i'w llenwi gyda phethau fel past dannedd, bwyd mewn tun, dillad a losin.
"Mae'n anhygoel bod y plant yma wedi dangos cymaint o ofal, o empathi a chariad tuag at bobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw," meddai llefarydd ar ran yr elusen."
Nos Fawrth, fe gyrhaeddodd Debbie ganolfan ddosbarthu ym Mharis, ac fe fydd y bagiau'n cael eu rhannu gyda ffoaduriaid fore Gwener.

Debbie Mossman a'i chydweithiwr yn llwytho'r fan ym Mharis nos Fercher cyn teithio i Calais

Cafodd y nodyn hwn, gan un o'r plant yn Ysgol Penglais, ei ganfod yn y bagiau wrth iddyn nhw gael eu pacio.