Teyrnged i'r daearyddwr yr Athro Harold Carter

  • Cyhoeddwyd
Harold Carter
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Athro Harold Carter yrfa academaidd hir ym Mhrifysgol Aberystwyth

Bu farw'r daearyddwr, yr Athro Harold Carter.

Yn ystod ei yrfa academaidd, bu'n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Athro Daearyddiaeth Ddynol Gregynog.

O 1983 tan iddo ymddeol yn 1986 roedd yn Gyfarwyddwr Adran Daearyddiaeth Aberystwyth.

Cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Llanrwst 1989.

Yn arbenigwr ym maes daearyddiaeth ddynol Gymraeg, traddododd ddarlith radio flynyddol BBC Cymru yn 1988, dan y teitl Diwylliant, Iaith a Thiriogaeth.

'Cyfraniad nodedig'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd yr Athro Rhys Jones o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: "Er pan gyrhaeddodd yr Adran Daearyddiaeth ym 1949, bu cyfraniad yr Athro Harold Carter i fywyd academaidd yr adran a'r brifysgol yn ehangach yn enfawr.

"Gwnaeth yr Athro Carter gyfraniad nodedig i ddatblygiad daearyddiaeth fel disgyblaeth.

"Daeth ei waith cynnar ar ddaearyddiaeth drefol - yng Nghymru a thu hwnt - yn enghraifft i ddaearyddwyr oedd yn gweithio yn y maes hwn.

"Ei angerdd arall oedd ymchwilio i ddaearyddiaeth yr iaith Gymraeg, a daeth ei erthyglau a'i lyfrau ar y thema - drwy gydweithio gyda'r Athro Emrys Bowen, ac yn fwy diweddar yr Athro John Aitchison - yn ddarllen gofynnol, nid yn unig i academyddion â diddordeb yn y themâu, ond hefyd i wneuthurwyr polisi ac ymgyrchwyr."