Marathon Eryri yn gwerthu allan o fewn oriau

  • Cyhoeddwyd
Marathon Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o gymalau cyntaf Marathon Eryri yn gorfodi rhedwyr i fyny Pen-y-Pass

Mae Marathon Eryri wedi gwerthu allan ar gyfer 2018, ychydig oriau wedi i'r dudalen gofrestru fynd yn fyw arlein.

Roedd modd i redwyr gofrestru am 07:00 fore Gwener, ac o fewn oriau mae gwefan un o rasus marathon caletaf Prydain yn dangos bod y ras bellach yn llawn.

Fe gafodd Marathon Eryri ei chynnal gyntaf yn 1982, gyda'r nod o gynnig tirwedd wahanol i redwyr oedd yn arfer cystadlu mewn marathons traddodiadol dinesig.

Yn 1982 fe wnaeth 600 o redwyr gystadlu, ond mae'r ras bellach yn "llenwi'r capasiti" o 3,000 o redwyr sy'n cymryd rhan yn flynyddol.

Mae'r ras yn cychwyn wrth droed Y Wyddfa yn Llanberis ac yn gorfodi rhedwyr i fyny Pen-y-Pass tuag at Beddgelert, ymlaen at Waunfawr cyn troi'n ôl i orffen yn Llanberis.

Bydd Marathon Eryri yn digwydd Dydd Sadwrn 27 Hydref, 2018.