Cynnal profion ar amddiffynfeydd llifogydd yn Abergwili
- Cyhoeddwyd
Mae profion wedi cael eu cynnal ddydd Sul ar amddiffynfeydd llifogydd sy'n gwarchod bron i 150 o adeiladau ym mhentref Abergwili, ger Caerfyrddin.
Cafodd y profion eu cynnal gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Heol Abergwili.
Y nod oedd asesu'r amddiffynfeydd wrth gefn fel bod modd paratoi'n well pe bai'r prif amddiffynfeydd yn methu.
Roedd y ffordd drwy'r pentref ynghau rhwng 11:00 a 15:00 tra roedd yr ymarfer yn cael ei gynnal.
Dywedodd Simone Eade, uwch gynghorydd rheoli digwyddiadau llifogydd yn CNC: "Gall llifogydd andwyo cartrefi a busnesau fel ei gilydd, a dyna pam y mae amddiffyn rhag llifogydd yn un o'n prif flaenoriaethau.
"Er ein bod yn rhoi llawer o adnoddau i amddiffynfeydd rhag llifogydd, rhaid inni baratoi rhag ofn iddynt beidio â gweithio.
"Gobeithio y bydd pobl yn gweld mantais o gynnal ymarferion o'r fath ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster."