Caniatâd i Samson Lee osod carafanau i'w deulu yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi cael caniatâd i osod chwe charafán i'w deulu mewn pentre' yn Sir Gâr.
Cafodd Samson Lee, sy'n aelod o'r gymuned teithwyr, yr hawl i godi llety i 15 o bobl ar Lôn y Sipsiwn yn Llangennech.
Aeth cynghorwyr i ymweld â'r safle brynhawn Gwener cyn cymeradwyo'r cais.
Roedd Cyngor Cymuned Llangennech wedi gwrthwynebu'r cynllun, gan ddweud na ddylai'r safle gael ei ddynodi'n safle Sipsiwn a Theithwyr a bod pryderon am yr effaith ar draffig.
Nododd yr adroddiad i'r cyngor bod teulu Samson Lee "â chysylltiadau ers sawl cenhedlaeth gydag ardal Llanelli".
Clywodd y pwyllgor cynllunio bod disgwyl i'w dad, ei frodyr, ei ewythr a chefndryd fyw ar y safle a bod y teulu eisiau dychwelyd i'w ffordd draddodiadol o fyw ar ôl cyfnod yn byw mewn tai yn ogystal â charafanau.
Cafodd amodau eu gosod ar y caniatâd i'r cynllun, sef mai pobl sy'n cael eu diffinio fel Sipsiwn a Theithwyr sy'n cael byw yno ac mai chwe charafán ar y mwyaf gaiff eu gosod.