Buddugoliaeth arall i Brett Johns yn yr UFC

  • Cyhoeddwyd
Brett JohnsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brett Johns yn ddi-guro, gyda record berffaith o 15 buddugoliaeth mewn 15 gornest

Roedd yr ymladdwr UFC o Gymru, Brett Johns yn fuddugol yn ornest fwyaf ei yrfa hyd yma yn erbyn Joe Soto yn Las Vegas yn oriau mân bore Sadwrn.

Llwyddodd y Cymro Cymraeg o Bontarddulais i roi'r Americanwr profiadol mewn trafferth yn syth, gan ddod â'r ornest i ben o fewn 30 eiliad.

Fe wnaeth Johns wneud i Soto ildio trwy afael yng nghroth ei goes - dim ond yr ail waith i symudiad o'r fath ennill gornest yn hanes yr Ultimate Fighting Championship.

Hon oedd trydedd ornest - a thrydedd fuddugoliaeth - yr ymladdwr pwysau bantam yn yr UFC, a llwyddodd hefyd i ennill gwobr Perfformiad y Noson - a $50,000 am wneud hynny- yn Las Vegas.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Cymro 25 oed yn parhau'n ddi-guro, gyda record berffaith o 15 buddugoliaeth mewn 15 gornest yn ei yrfa hyd yn hyn.

'Draig enfawr'

Bydd Johns nawr yn gobeithio y gall herio rhywun yn 10 uchaf y detholion pwysau bantam yn ei ymddangosiad nesaf.

Dywedodd yn syth ar ôl yr ornest fore Sadwrn: "Mae gen i barch i bawb yn y 10 uchaf, ond rwy'n dod amdanyn nhw.

"Rwy'n dod â draig enfawr gyda mi, a chefnogwyr anhygoel, ac rwy'n dod am y gwregys aur 'na erbyn diwedd 2018."

Mae crefftau ymladd cymysg, neu mixed martial arts (MMA) yn fath o ymladd sy'n gweld cystadleuwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys reslo, bocsio, karate a jiwdo.

Yr UFC yw prif gystadleuaeth MMA y byd, ac mae bellach werth mwy na £3bn.