Prifysgol Aberystwyth: Arestio dyn wedi adroddiad cyllell

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Aberystwyth

Cafodd un o adeiladau Prifysgol Aberystwyth ei gau brynhawn Mawrth yn dilyn adroddiadau fod dyn ar y campws gyda chyllell.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi eu galw i adeilad Llandinam ar y campws ar Riw Penglais am 13:35.

Cafodd yr adeilad ei gau ac fe gafodd heddlu arfog eu galw i gynorthwyo gyda'r chwilio.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio ar amheuaeth o gario arf finiog mewn man cyhoeddus, ac mae yn y ddalfa.

Yn ôl yr heddlu doedd yna ddim bygythiadau a chafodd neb eu hanafu. Cafodd yr adeilad ei archwilio cyn cael ei ail-agor.

Nid oedd Prifysgol Aberystwyth am wneud sylw am y digwyddiad.