Dim tystiolaeth o geisio cipio plentyn yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Tesco

Mae Heddlu Dyfed-Powys, sy'n ymchwilio i achos posib o gipio plentyn yn archfarchnad Tesco yng Nghaerfyrddin nos Fawrth, yn dweud nad ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod trosedd wedi ei chyflawni.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r siop am 18:30, ond ni chafodd y plentyn ei gipio ac mae'n ymddangos na fuodd cysylltiad corfforol gyda'r plentyn yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu fod plentyn yn ddiogel ac yng ngofal teulu a swyddogion.

Cafodd yr ardal ei chau i'r cyhoedd am dros awr er mwyn i'r heddlu gynnal archwiliad.

Fore Mercher, dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n parhau i ymchwilio i'r honiadau, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.