Cenhedlaeth arloesol y theatr Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Wrth gofio'r awdur a'r actor Meic Povey, a ddechreuodd ei yrfa gyda Cwmni Theatr Cymru a'r actores Iola Gregory, un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws, y dramodydd Ian Rowlands a'r actor John Pierce Jones sy'n ystyried cyfraniad arloesol y ddau a'u cenhedlaeth i'r theatr Gymraeg.
Ian Rowlands:
Heb os fyddwn i ddim wedi cael fy ysbrydoli i greu gyrfa i fi fy hun yn y theatr oni bai am genhedlaeth Meic a Iola.
Yn hanesyddol, ry'n ni'n genedl sydd wedi cwestiynu awdurdod. Beth wnaeth fy ysbrydoli i am eu cenhedlaeth nhw yw eu bod nhw'n griw o wneuthurwyr theatr wnaeth ymwrthod ag awdurdod Prydeinig.
Am y tro cyntaf, roedd ein llwyfan ni o'r 70au mlaen, gyda Meic, Iola a'u criw, yn adlewyrchu dyhead gwleidyddol y bobl. Cyn hynny roedd y theatr Gymraeg i raddau yn ryw fath o berthynas tlawd i'r theatr naturiolaidd Seisnig.
Ro'n i'n ddisgybl ysgol pan weles i gynnyrch y to radical yma am y tro cyntaf; sioeau fel Bargan a Cofiant y Cymro Olaf. Fe wnaethon nhw fy ysbrydoli i achos yn sydyn ro'n i'n gweld cwestiynau mawr am y genedl ac am Gymru yn cael eu rhoi ar lwyfan ger 'y mron, ac roedd hynny'n gyffrous.
Dyna oedd i mi y trysor a roddodd y genhedlaeth yna i ni - yr hawl i ddefnyddio theatr fel drych i'r genedl.
Roedd Theatr Bara Caws a dramâu Meic yn herio confensiwn ac yn herio'r Cymry i ddeffro o'u malaise. Yn enwedig wedi 1979 a'r methiant erchyll pan gollwyd y refferendwm cyntaf.
Roedd pobl fel Meic a Iola yn weithgar yn y cyfnod allweddol hwnnw rhwng 1979 a 1997 pan oedd angen dybryd ar y Cymry i droi at y theatr a'r llwyfan i gael arweiniad. Ac fe wnaethon nhw ein harwain ni.
Fe ddywedodd rhywun yn ddiweddar mai Meic Povey oedd y dramodydd gwerinol olaf Cymraeg, hynny yw y dramodydd olaf o'r dosbarth gweithiol, o'r werin bobl, sydd wedi codi ac wedi creu theatr authentic gwerinol.
Mae'r sawl sy'n sgrifennu ein dramâu ni bellach yn dueddol o fod yn rhai sydd wedi cael addysg ac wedi codi o deuluoedd cefnog (bourgeoisie). Ond doedd Meic ddim felly. Roedd yn foi ei filltir sgwâr ac roedd ei waith yn canu i'r werin.
Mae angen ar hyn o bryd, yn enwedig yn y cyfnod pan mae cyfalafiaeth a neo-ryddfrydiaeth yn arglwyddiaethu dros ein gwerthoedd cymdeithasol, i'r theatr godi eto a bod yn ddewr a bod yn ddrych i'n dyheadau ni.
Ond ble mae'r bobl sydd ar dân, dilynwyr Iola a Meic Povey a'r holl bobl greadigol 'na ddôth allan o ddiwedd Theatr Cymru yng nghyfnod Wilbert Lloyd Roberts?
Dydyn nhw ddim fel tase nhw yna, yn enwedig yn y theatr Gymraeg. Efallai mai oherwydd mai theatr ddosbarth canol sydd gyda ni bellach yn hytrach na theatr i'r werin?
Ond mater arall yw hynny sydd y tu hwnt i'r teyrngedau sy'n ddyledus ar hyn o bryd i ddau arwr mawr y theatr a'r cyfryngau yng Nghymru, Meic a Iola.
John Pierce Jones:
Mae'n anodd cymharu'r sefyllfa ar ddechrau Theatr Cymru gyda heddiw. Ychydig iawn ohonan ni oedd yn mynd i fod yn actorion llawn amser proffesiynol bryd hynny.
O Theatr Cymru a gychwynwyd gan Wilbert Lloyd Roberts y daeth cwmnïau fel Theatr yr Ymylon a Bara Caws ac eraill.
Oni bai fod y rhain wedi gosod y sylfeini yna - a phobl fel Meic Povey wedi gweithio am ddim yn 17 oed yn Theatr Cymru i ddod â chynhyrchiadau o safon i bobl - fyddai 'na ddim theatr Gymraeg heddiw.
Roedd 'na awydd ac awch i ddweud: 'Mi wnawn ni wneud rhywbeth, awn ni allan, nawn ni ddechrau pethau newydd a gwneud ein theatr ein hunain'.
Pan agorwyd y theatrau newydd ar ddechrau'r 1970 fe wnaeth Iola Gregory gymryd gafael ar Theatr Felinfach a wedyn Theatr y Werin a chael cwmni at ei gilydd.
Roedd 'na griw o bobl ifanc yn Theatr Antur - pobl ifanc broffesiynol oedd newydd adael coleg ac yn torri eu cwys eu hunain. Ac o hwnnw y tyfodd Bara Caws.
Roedd 'na ddeunydd beiddgar yn yr iaith Gymraeg, ar deledu yn ogystal ag ar lwyfan, oedd yn adlewyrchu bywyd bob dydd, beth oedd ein dyheadau ni fel pobl ifanc o fewn y genedl a'r cwmnïau yn siarad efo'u pobl, fel y dylai'r theatr ei wneud.
Dwi'n cofio Bara Caws yn gwneud ei cynhyrchiad mawr cyntaf yn Eisteddfod Wrecsam, Croeso i'r Roial, oedd yn gwneud hwyl am ben y Frenhines. A rargian roedd pobl yn rhedeg arnyn nhw, fysach chi'n meddwl fod na lofruddiaeth mawr wedi digwydd.
Ond mae'n mynd yn ôl rŵan i un cwmni mwy neu lai, sef y Theatr Genedlaethol. Dydi hi ddim fel oedd hi 20 mlynedd yn ôl pan oedd 'na gwmnïau di-ri yma.
Mae angen mwy o amrywiaeth rŵan. Mae 'na gymaint o ddewis o awduron ac actorion ar gael a dim cyfle i chi weld yr holl ddoniau sydd 'na.