Yr actores Iola Gregory wedi marw yn 71 oed
- Cyhoeddwyd
![Iola Gregory](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6D3C/production/_98846972_mediaitem98846971.jpg)
Mae'r actores Iola Gregory wedi marw yn 71 oed wedi salwch byr.
Roedd hi'n adnabyddus am ei gwaith teledu a ffilmiau Cymreig, a bydd llawer yn ei chofio fwyaf am ei phortread o Jean McGurk yn yr opera sebon Pobol y Cwm.
Fe ymddangosodd Iola Gregory mewn sawl ffilm yn yr 1980au gan gynnwys Aderyn Papur, Rhosyn a Rhith, a Stormydd Awst.
Hi hefyd oedd yn actio cymeriad y fam yn y gyfres deledu boblogaidd Joni Jones, ac fe chwaraeodd rhan y matron yn nhrydedd gyfres y ddrama deledu District Nurse.
Bu Cadfan Roberts a Dyfan Roberts yn cyd-weithio gydag Iola Gregory
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi rhoi teyrnged i'r actores gan ei disgrifio fel "un o gymeriadau mawr" y byd drama yng Nghymru.
Sefydlu Bara Caws
Yn yr 1970au penderfynodd ddod yn actores broffesiynol, ac roedd yn un o'r actorion gafodd y syniad bod angen theatr yng Ngwynedd er mwyn gwasanaethu pobl yr ardal.
Yn sgil hynny fe aeth hi a Valmai Jones, Catrin Edwards, Myrddin 'Mei' Jones a Dyfan Roberts ati i sefydlu Theatr Bara Caws yn 1977.
![iola gregory](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/17038/production/_98846249_2615879a-6e2c-44e1-92cc-4f8cb65f4e08.jpg)
Iola Gregory ochr yn ochr a David Lyn a Ryan Davies ar raglen Byw Mewn Eilfyd, 1968
Roedd ei llais hefyd i'w glywed ar y radio wrth iddi chwarae rhan Siwan yn nrama Saunders Lewis ar Radio Cymru yn 1990.
Yn 1987 camodd ar set Cwmderi fel y cymeriad lliwgar Jean McGurk, neu Mrs Mac, gan briodi Glan a symud i fyw yn y Deri Arms.
Gadawodd yr opera sebon yn 1997 i fynd i fyw yn Tenerife, ond fe ddaeth hi yn ôl i'r cwm ar ymweliadau byr sawl gwaith wedi hynny.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe wnaeth hi ymddangos yn fwy diweddar yn y gyfres Rownd a Rownd a Porthpenwaig.
Mae'n gadael dwy ferch.
'Un o gymeriadau mawr'
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, ei fod yn "dristwch clywed am farwolaeth Iola Gregory, un o gymeriadau mawr y byd perfformio yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf".
"Pa bynnag rôl y byddai hi'n perfformio, byddai ei phresenoldeb i'w deimlo ar lwyfan, teledu neu ffilm, arwydd o wir ddawn i bortreadu cymeriad."
Ychwanegodd Huw Jones: "Roedd ei chyfraniad i'r byd drama yn un anferthol, ei hymroddiad i'r diwydiannau creadigol yn angerddol ac fe fydd yna golled aruthrol ar ei hôl."
![iola gregory](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14369/production/_98839728_iolagregorypyc.jpg)
Dywedodd Llyr Morus, Cynhyrchydd y Gyfres i Pobol y Cwm: "Jean McGurk yw un o gymeriadau mwyaf poblogaidd ac eiconig Cwmderi.
"Yn cadw'r Deri am ddegawd, roedd Mrs Mac yn galon i'r Cwm, weithiau'n ffraeth, weithiau'n ffyrnig. Mi fydd hi'n ran o deulu Pobol y Cwm am byth.
"Ry'n ni oll, y cast a'r criw, yn meddwl am deulu a ffrindiau Iola Gregory."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un a serennodd ochr yn ochr ag Iola Gregory yng nghyfres Pobol y Cwm oedd yr actor a'r cyfarwyddwr Geraint Morgan, a oedd yn chwarae rhan Barry John yn y gyfres.
Wrth roi teyrnged iddi ar wefan Twitter, dywedodd: "Torri nghalon o glywed am farwolaeth Iola Gregory. Atgofion hapus iawn o'i chwmni. Actores heb ei hail, ac yn asgwrn cefn i gyd, mi helpodd fi i dyfu fyny."
Yr actores Lisabeth Miles sy'n cofio Iola Gregory
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017