Rhybudd i baratoi am eira a rhew dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
rhybudd eiraFfynhonnell y llun, PA/Swyddfa Dywydd

Mae adrannau priffyrdd cynghorau ledled Cymru yn paratoi wrth i'r tywydd oer fygwth rhew a hyd at 20cm o eira ddydd Gwener.

Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn, byddwch yn barod, o 00:05 ddydd Gwener i 18:00 ddydd Sadwrn.

Y disgwyl yw mai siroedd y gogledd fydd yn cael eu heffeithio fwyaf.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod 2-5cm o eira yn debygol ymhobman yng Nghymru, gyda hyd at 10-20cm yn bosib dros y gogledd.

Yn ôl y rhagolygon fe all teithwyr wynebu oedi oherwydd rhew ar y ffyrdd, a gall y rhew hefyd amharu ar wasanaethau trên a'r meysydd awyr.

Fe allai cyflenwadau ynni i ardaloedd gwledig hefyd gael eu heffeithio.

Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio cwsmeriaid y gallai pibelli rewi, gan achosi difrod werth rhai miloedd o bunnoedd.

Mae'r cwmni yn cynnig offer lagio am ddim er mwyn i gwsmeriaid allu amddiffyn pibellau rhag yr oerfel.

Fe fydd manylion am ysgolion yn cau ar gael ar wefannau y rhan fwyaf o gynghorau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd llefarydd ar ran Ynys Môn y byddai'r ysgolion yno yn cysylltu â'r rheini'n uniongyrchol pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i gau.

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu bod "yn barod ar gyfer unrhyw dywydd gaeafol sydd wedi ei ragweld", ac y byddai graeanu'n digwydd ar brif ffyrdd y sir.

Ychwanegodd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod gweithwyr yn barod i weithredu cynllun i drin ffyrdd os oes angen.