Caerffili 'wedi colli £400,000' achos gwaith ffordd

  • Cyhoeddwyd
Pwll y Pant
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffyrdd i Gasnewydd, Ystrad Mynach, canol Caerffili a'r A470 yn cwrdd ar y gylchfan

Mae effaith gwaith ffordd yng Nghaerffili wedi amddifadu'r economi lleol o bron i £400,000, yn ôl un amcan.

Yn ôl data, mae nifer y tagfeydd yn ardal cylchfan Pwll y Pant wedi treblu ers i'r gwaith ddechrau ym mis Hydref.

Mae busnesau eisoes wedi mynegi eu pryder am yr effaith economaidd.

Dywedodd Cyngor Caerffili y bydd gwelliannau gwerth £5m i'r ffordd yn lleihau nifer y tagfeydd.

'Poen tymor byr'

Yn ôl data cwmni dadansoddi INRIX, roedd 145 o dagfeydd yn yr wyth wythnos cyn i'r gwaith gychwyn ar 9 Hydref, o'i gymharu â 42 digwyddiad cyn i'r gwaith gychwyn.

Mae'r ystadegau'n dangos hefyd bod ciwiau yn yr ardal ddwywaith yn hirach.

Mae'r cwmni'n amcangyfrif mai £378,730 ydy cost economaidd y gwelliannau mewn amser wedi'i golli a thanwydd hyd yn hyn, ond maen nhw'n cydnabod ei fod yn "fater o boen tymor byr ar gyfer budd tymor hir".

Un lôn oedd ar agor ar y ffyrdd sy'n arwain at y gylchfan yn wreiddiol, ond bydd dwy lôn ar agor i bob cyfeiriad tan Ionawr wedi cwynion gan fusnesau.

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Caerffili, Sean Morgan, bod yr awdurdod "wedi gwrando ar bryderon y gymuned a gweithio'n agos gyda'r contractwyr i wneud y newidiadau positif hyn yn barod at y cyfnod pwysig cyn y Nadolig."