Ffyrdd ar gau a channoedd o gartrefi heb drydan
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o gartrefi heb drydan a nifer o ffyrdd ar gau wrth i eira trwm achosi trafferthion ar draws Cymru.
Disgynnodd hyd at 30cm o eira ym Mhontsenni ger Aberhonddu ac mae'r A470 yn Storey Arms ym Mhowys ar gau.
Yn ôl cwmni Western Power, does dim trydan mewn nifer o ardaloedd yn y de a'r canolbarth.
Mae degau o ysgolion wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n agor ddydd Llun, yn bennaf ym Mhowys, dolen allanol, Sir Ddinbych, dolen allanol, Wrecsam , dolen allanola Sir Fynwy, dolen allanol.
Bydd rhybudd tywydd melyn am rew yn dod i rym am 04:00 fore Llun.
Roedd rhybudd oren am eira trwm mewn grym tan 18:00 yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin ac fe apeliodd holl heddluoedd Cymru ar fodurwyr i beidio â theithio "oni bai bod rhaid" yn yr ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf.
Mae 'na rybudd bod yr amodau'n anodd ar hyd yr A55 yn y gogledd ac mae'r A470 ynghau rhwng Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog.
Yn y canolbarth, mae'r A470 yn Storey Arms, Powys, wedi bod ar gau ers bore Sul.
Mae cymoedd y de wedi eu heffeithio hefyd, gyda'r A4233 rhwng Maerdy ac Aberdâr ar gau ac mae rhybudd am amodau gwael ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, ym Mrynmawr, Blaenau Gwent.
Mae'r A44 hefyd wedi ei heffeithio rhwng Aberystwyth a Llangurig.
Am y diweddara' ar y ffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, dolen allanol.
Ar un cyfnod yn ystod y dydd, roedd dros 3,000 o gartrefi heb drydan yng Nghymru - y rhan fwyaf yn y de a'r canolbarth.
Y diweddara' am gyflenwadau trydan Western Power yn y canolbarth, gorllewin a de Cymru ar eu gwefan, dolen allanol
Y diweddara' yn y gogledd ar wefan Scottish Power, dolen allanol
Mae trafferthion ar y rheilffyrdd hefyd, gyda gwasanaethau sy'n cysylltu'r de a'r gogledd yn cael eu canslo neu'n dod i ben yn fuan gan bod rhwystr ar y cledrau rhwng Casnewydd a'r Fenni.
Yn ôl Trenau Arriva Cymru, mae rhwystr ar y lein hefyd yn Llanymddyfri, sy'n effeithio ar wasanaethau yn yr ardal.
Cyngor y cwmni ddydd Sul oedd i beidio â theithio oni bai bod rhaid, ac mae modd gweld y manylion diweddara' am eu gwasanaethau ar eu gwefan, dolen allanol.
Cau ysgolion
Mae disgwyl i ddegau o ysgolion fod ar gau dydd Llun, gyda nifer o gynghorau eisoes wedi cyhoeddi pa ysgolion fydd ddim ar agor.
Ym Mhowys, bydd dim trafnidiaeth i ysgolion, hyd yn oed oes ydy'r ysgol honno ar agor. Mae'r sir wedi cyhoeddi bydd dros 80 o ysgolion ynghau, tra bydd nifer ynghau yn Sir Ddinbych, Sir Fynwy a Wrecsam hefyd.
Mae'r manylion ar dudalennau gwe'r cynghorau sir.
Cafodd rhai cymunedau eu hynysu gan yr eira yn ystod y dydd. Fe apeliodd gweithwyr yng Ngholeg Elidyr yn Rhandirmwyn ger Llanymddyfri am gymorth gan bod dros 40 o bobl yn sownd yno heb drydan.
Roedd apêl hefyd am nyrsus i lenwi bylchau mewn ysbytai yng Nghaerdydd, gan bod nifer o'u staff yn sownd. Roedd gwirfoddolwyr argyfwng y Groes Goch ar ddyletswydd er mwyn helpu cludo staff, offer a chyflenwadau gwaed i ysbytai'r gogledd.
Am y diweddara' ar y tywydd, ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd, dolen allanol
Gyda'r rhybudd am eira trwm wedi dod i ben nos Sul, mae rhybudd melyn am rew yn dod i rym am 04:00 fore Llun. Bydd yn para tan 11:00 y bore.