Lluniau: Eira dydd Sul
- Cyhoeddwyd
Dyma gipolwg, mewn lluniau, ar effaith yr eira yng Nghymru ddydd Sul:

Bu'r heddlu'n delio gyda char oedd wedi troi ar allt Penglais yn Aberystwyth

Fe ddeffrodd pentref Derwen-gam ger Aberaeron i flanced o eira fore Sul

Aeth y ddafad yma i drafferth yn Llidiartywaun ger Llanidloes

Amser i fynd ar y sled yng Nglyn Ebwy!

Penuwch, Ceredigion

Roedd yr eira'n glynu hyd yn oed mewn rhai ardaloedd arfordirol, fel yn nhref Abergele

Siop ddillad yn Aberystwyth yn manteisio ar yr eira i arallgyfeirio... am ddiwrnod beth bynnag!

Y ci yn mwynhau yn yr eira trwchus ym Mhontrhydfendigaid

Fferm Gilfach ym Mlaenycoed ger Caerfyrddin

Iestyn Hughes yn siomedig bod yr eira'n dechrau dadmer yn Y Borth, Ceredigion

Wedd hi'n wêr yng Nghrymych

Llanuwchllyn dan flanced o eira