588 o ysgolion wedi cau a rhybudd am fwy o rew nos Lun

  • Cyhoeddwyd
Fferm HenllanFfynhonnell y llun, Ffion Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Chwilio am fwyd yn yr eira ar fferm Henllan yn Uwch y Garreg, Machynlleth

Mae 588 o ysgolion wedi cau fore Llun yn dilyn yr eira a'r rhew.

Mae rhybudd melyn am rew ar y ffyrdd yng Nghymru gan y Swyddfa Dywydd wedi cael ei gyhoeddi am brynhawn Llun a bore Mawrth.

Bydd y rhybudd newydd mewn grym o 16:00 ddydd Llun tan 11:00 fore Mawrth ar draws y rhan fwyaf o Gymru heblaw arfordir y gogledd a Sir Benfro.

Roedd rhybudd melyn am rew mewn grym i Gymru gyfan fore Llun, gan achosi trafferthion i deithwyr yn dilyn penwythnos o eira i lawer.

Mae 400 o gartrefi yn parhau heb drydan ddydd Llun, a hynny ar ôl i filoedd o gartrefi fod heb drydan am gyfnod ddydd Sul.

Cafodd nifer o briffyrdd eu cau hefyd wrth i'r eira a'r rhew greu amodau gyrru anodd.

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ar ôl cael ei anafu mewn damwain sledio brynhawn Sul.

Ysgolion wedi cau

Mae manylion yr ysgolion sydd wedi cau i'w gweld ar wefannau'r cynghorau:

Cau ffyrdd

Cafodd nifer o ffyrdd eu cau ddydd Sul, gan gynnwys yr A470 yn ardaloedd Aberhonddu, Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog, yr A44 ger Aberystwyth, a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent.

Fore Llun mae ffyrdd mynyddig y Bwlch ger Treorci, y Rhigos yn Hirwaun a Maerdy ger Aberdâr ar gau, ond mae Ffordd y Crimea ger Blaenau Ffestiniog wedi ail-agor.

Gallwch weld y rhybuddion ffordd diweddaraf ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Yn ogystal â'r rhybudd am rew, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol yn rhybuddio am y posibilrwydd o lifogydd.

Cyhoeddodd CNC bedwar rhybudd ar afonydd ddydd Sul:

  • Afon Ddawan;

  • Afonydd de Sir Benfro;

  • Afon Tregatwg;

  • Afon Elai.

Ffynhonnell y llun, Matty Thomas

Mae oedi a chanslo teithiau yn debygol ar y rheilffyrdd hefyd, ac fe allwch chi weld y manylion diweddaraf ar wefannau Trenau Arriva Cymru, dolen allanol.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cwsmeriaid Western Power Distribution yng nghanolbarth, gorllewin a de Cymru yma, dolen allanol.

Mae modd i gwsmeriaid weld beth ydy'r sefyllfa ar draws gogledd Cymru trwy gofnodi eu côd post ar wefan Scottish Power, dolen allanol.

Ddydd Sul bu'n rhaid i'r heddlu ofyn am gymorth Timau Achub Mynydd Bannau Brycheiniog ar ôl i ddyn gael ei anafu wrth sledio ar y tir uwchben Ton Pente, Rhondda.

Fe wnaeth y tîm ddefnyddio rhaffau î dynu'n dyn isafle diogel, cyn iddo gael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrenydd.

Cafodd y tîm eu galw ychydig cyn 18:00.