Lluniau: Eira dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Dyma gipolwg, mewn lluniau ar yr eira yng Nghymru ddydd Llun:

Mae golygfa hyfryd gan y ddau ddyn eira yma ym Mhant-y-Crug, Ceredigion

Bore prydferth yn ardal Croeslan, Llandysul. Mae'r ysgol leol, Ysgol Bro Teifi, ar gau heddiw, cyfle i blant yr ardal fwynhau'r eira!

Golygfa hyfryd ym Metws-y-Coed

Barbara Watkin yn palu ei ffordd allan o'r tŷ yn Ffairhos uwchlaw Pontrhydfendigaid, Ceredigion, fore Llun.

Mae'r dyn eira bach yma'n edrych yn hapus ond yn go unig o flaen y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fore Llun!

Doedd Megan Varley o'r Foel rhwng Machynlleth a Llanfair Caereinion yn methu â chyrraedd ei gwaith ym Machynlleth y bore 'ma.

Teulu o ddynion eira ym Mynwent y Crynwyr

Llyn Mymbyr fore Llun.

Llanrwst o Goedwig Gwydir

Erin ac Ifan, a'u ffrind newydd, yn mwynhau'r eira yn ardal Llambed

Cŵn yn yr eira yn ardal Treuddyn, Sir y Fflint

Ffarm Henllan yn ardal Machynlleth

Defaid ar ffarm Henllan ger Machynlleth

Ger Talgarreg yng Ngheredigion

Mathe yn mwynhau'r eira yn ardal Y Bala, gyda'r Arenig Fawr yn y cefndir.

Lleucu yn mwynhau ar y sled ym Mhontrhydfendigaid

Ilan a Mali ar fin mynd ar y trên i weld Siôn Corn

Plant yn mwynhau'r eira ym Mhen Llŷn

Yn Harford, Llanwrda

Mae'r plantos yma o Dregaron ar ben eu digon yn yr eira ddydd Llun

Roedd Ysgol Ciliau Parc yng Ngheredigion ar agor ddydd Llun, cyfle i'r plant fwynhau creu angylion eira!

Yr haul yn machlud dros Aberystwyth nos Lun
Anfonwch eich lluniau eira at cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol.