Rhybudd melyn newydd am rew tan fore Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd melyn am rew ar y ffyrdd yng Nghymru gan y Swyddfa Dywydd yn parhau fore Mawrth.
Mae'r rhybudd newydd wedi bod mewn grym o 16:00 ddydd Llun tan 11:00 fore Mawrth ar draws y rhan fwyaf o Gymru, heblaw arfordir y gogledd a Sir Benfro.
Mae 305 o ysgolion eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n agor ddydd Mawrth, gyda'r rhan fwyaf ym Mhowys.
Yn ôl Prif Ragolygydd y Swyddfa Dywydd fe fydd y rhew ar ei waethaf ble mae'r eira wedi toddi ddydd Llun, neu ble mae'r eira wedi bod yn gymysg â glaw yn y de.
Yn ôl y cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Sue Charles, roedd y tymheredd wedi disgyn i -12C dros nos mewn mannau, fe gafodd y tymheredd isaf ei gofnodi ger Rhaeadr Gwy, ym Mhowys.
Dyma'r tymheredd isaf i gael ei gofnodi yng Nghymru ers 2010.
Roedd 588 o ysgolion ar gau ar draws y wlad dydd Llun ac mae rhai awdurdodau lleol yn rhybuddio i gadw golwg ar eu gwefannau rhag ofn y bydd rhaid cadw drysau ynghau fory hefyd.
Fe gyhoeddodd prifathro Ysgol Bro Teifi yn Llandysul eu bod nhw wedi penderfynu gohirio eu sioe gerdd Anni tan wythnos nesaf am "nad yw rhagolygon tywydd yn ddigon ffafriol eto er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y campws ar nos Fawrth".
Dywedodd Cyngor Ceredigion bod amgylchiadau yn gwella, ond y byddai "prifathro pob ysgol bydd yn gwneud y penderfyniad olaf i agor neu gau eu hysgol yn seiliedig ar asesiad o ddiogelwch y safle a'r nifer o staff sydd yn gallu mynychu'r ysgol".
Trydan yn ôl
Dywedodd cwmni trydan Western Power mai dim ond llond llaw o gartrefi sy'n parhau heb gyflenwad erbyn nos Lun.
Ar un adeg roedd dros 400 o gartrefi heb drydan ddydd Llun, a hynny ar ôl i filoedd o gartrefi fod heb drydan am gyfnod ddydd Sul.
Roedd nifer o briffyrdd ar gau brynhawn Llun gan gynnwys yr A470 yn ardaloedd Aberhonddu, Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog, yr A44 ger Aberystwyth, a'r A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent.
Mae oedi a chanslo teithiau yn bosib ar y rheilffyrdd hefyd, ac fe allwch chi weld y manylion diweddaraf ar wefannau Trenau Arriva Cymru, dolen allanol.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cwsmeriaid Western Power Distribution yng nghanolbarth, gorllewin a de Cymru yma, dolen allanol.
Mae modd i gwsmeriaid weld beth ydy'r sefyllfa ar draws gogledd Cymru trwy gofnodi eu côd post ar wefan Scottish Power, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2017