Mark Drakeford: Angen 'y Brexit gorau' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyfarfod â gweinidogion gwledydd eraill Prydain ddydd Mawrth

Mae Llywodraeth Cymru yn galw am newidiadau i'r mesurau Brexit er mwyn osgoi "brwydrau cyfansoddiadol anferth".

Yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, rhaid i weinidogion San Steffan sy'n cynllunio'r newidiadau posib i Fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd gyflwyno "argymhellion cadarn".

Mae Llywodraethau Cymru a'r Alban yn cyhuddo Llywodraeth y DU o ddefnyddio'r mesur fel ffordd o gadw gafael ar bwerau.

Cafodd y datblygiadau yn y trafodaethau Brexit diweddar groeso gan Mr Drakeford, ond ychwanegodd bod angen llawer o waith eto er mwyn sicrhau "y Brexit gorau".

Cyn cyfarfod o weinidogion o San Steffan, Caerdydd a Chaeredin fore Mawrth, dywedodd Mr Drakeford bod angen i Lywodraeth y DU gyflwyno newidiadau i'r Mesur Ymadael cyn iddo symud o Dŷ'r Cyffredin i Dŷ'r Arglwyddi.

Yn ddiweddar dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ei fod wedi ei "galonogi" wrth glywed gweinidogion San Steffan yn cydnabod y byddai'n rhaid gwneud rhai newidiadau i'r mesur.

Ond cafodd newidiadau gafodd eu cynnig gan Lywodraethau Cymru a'r Alban eu gwrthod mewn pleidlais o ASau.

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd a Chaeredin yn pryderu fod pwerau'n ymwneud a materion sydd eisioes wedi eu datganoli yn debygol o gael eu trosglwyddo o Frwsel i San Steffan am gyfnod amhenodol.

Yn ôl Llywodraeth y DU dylai rhai pwerau, mewn maesydd fel amaethyddiaeth, gael eu dal yn San Steffan am ychydig er mwyn datblygu strategaethau i Brydain gyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mark Drakeford AC rhaid i Gymru fod yn rhan o'r trafodaethau Brexit nesaf am y byddan nhw'n cynnwys pynciau fel amaethyddiaeth

Ar drothwy cyfarfod rhwng cynrychiolwyr o'r holl lywodraethau yn Llundain dywedodd Mark Drakeford: "Tra'n bod ni'n deall mai cynllun sy'n parchu datganoli yw'r ffordd orau, rydyn ni'n barod i roi'n mesurau ni yn eu lle.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw ers sawl mis bellach ac fe fydd popeth yn ei le pan fydd angen."

Ychwanegodd ei bod hi'n "hanfodol" fod y llywodraethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau Brexit nesaf.

"Bydd y trafodaethau nesaf yma'n cynnwys cwestiynau am bethau fel cymorth i amaethyddiaeth yn ystod ac ar ôl y ffenestr drosglwyddo, pa fath o ddeddfau amgylcheddol fydd gyda ni yn y dyfodol..."

Dywedodd hefyd y byddai'n cynnwys aelodaeth "o raglenni addysg ac ymchwil Ewropeaidd pwysig, megis Erasmus Plus a Horizon 2020 - ac mae'r rhain i gyd ar hyn o bryd yn bynciau sydd eisioes wedi cael eu datganoli".

Bydd cyfarfod y gweinidogion yn cael ei gadeirio gan ddirprwy'r Prif Weinidog, Damian Green, a bydd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ac eraill yn bresennol hefyd.